Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cymunedau Arfordirol Sir y Fflint i elwa o Arian y Loteri

Published: 27/07/2015

Dyfarnwyd bron i £300,000 i Gyngor Sir y Fflint yn ddiweddar gan Gronfa Cymunedau Arfordirol y Loteri Fawr i ymgymryd ag ystod o welliannau ar draws gwahanol leoliadau ar hyd arfordir Sir y Fflint. Nod y Gronfa Cymunedau Arfordirol yw cefnogi prosiectau a fydd yn cyfrannu at y gwaith o adfywio ardaloedd arfordirol. Yn Sir y Fflint, maer cynlluniau a gefnogir yn cynnwys: • gwelliannau i adran Sir y Fflint o Lwybr Arfordir Cymru. • creu llwybr diogel a sicr i gerddwyr rhwng Parc Gwepra a Llwybr Arfordir Cymru. • creu llwybr cyswllt rhwng llwybr cenedlaethol Clawdd Offa a Llwybr Arfordir Cymru. • gwella’r isadeiledd i ymwelwyr mewn canolbwyntiau allweddol fel Talacre, Doc Maes Glas ar Fflint. • darparu swyddi amgylcheddol achrededig dan hyfforddiant ar gyfer 30 o bobl leol ddi-waith. • hyrwyddor arfordir y Ddyfrdwy ai atyniadau fel cyrchfan i dwristiaid. • trefnu digwyddiad i ddathlu treftadaeth, diwylliant ac amgylchedd yr arfordir. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd, “Mae hwn yn fuddsoddiad i’w groesawu ar gyfer arfordir Sir y Fflint, gan ein bod yn cydnabod bod Aber y Ddyfrdwy’n ased gwerthfawr ir sir. Bydd hyn yn galluogir Cyngor Sir ai bartneriaid i adeiladu ar y gwaith da sydd wedi ei wneud hyd yma, a manteisio ymhellach ar y cyfleoedd y maer arfordir yn darparu ar gyfer twristiaeth, hamdden, busnes lleol ar cymunedau arfordirol eu hunain. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Mae rhan Sir y Fflint o Lwybr Arfordir Cymru yn gyfoethog o ran treftadaeth ac mae hanes unigryw pob adran yn adrodd stori wych am y rhanbarth. Ers ei agor, mae Llwybr Arfordir Cymru wedi dod â llawer mwy o ymwelwyr ir ardal. Bydd y cynlluniau newydd a fydd yn cael eu gweithredu yn gwellar llwybr ymhellach ac yn cynnig rhagor o gyfleoedd i ymwelwyr fwynhau arfordir diddorol y sir ac yn archwilio ymhellach ir tir hefyd.” Bydd y gweithgareddau yn cael eu darparu gan bartneriaeth syn cynnwys Cyngor Sir y Fflint, Groundwork Gogledd Cymru a Dangerpoint Ltd. Bydd y gweithgareddau’n cael eu gweithredu dros gyfnod o 12 mis yn dechrau yn gynnar yn 2016. Ariennir y Gronfa Cymunedau Arfordirol gan y Llywodraeth gydag incwm o asedau morol Ystâd y Goron. Caiff ei gweinyddu gan Gronfa’r Loteri Fawr ar ran Llywodraeth y DU ar Gweinyddiaethau Datganoledig yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru. _DSC0006.jpg Estuary Walk 2.jpg