Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cofeb Ryfel Gwepra

Published: 29/07/2015

Cynhelir seremoni i nodi diwedd gwaith gwella mawr ar Gofeb Ryfel Gwepra a Phont Gwepra yng Nghei Connah ddydd Mawrth 4 Awst. Mae’r gofeb wedi’i glanhau’n ofalus a’i hadnewyddu ac mae palmant a goleuadau newydd wedi’u gosod i wella’r safle cyfan. Arianwyd y prosiect gan y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru. Mae’r gofeb ryfel wedi’i breinio â Chyngor Sir y Fflint ac mae digwyddiadau coffaol wedi’u trefnu gan Bwyllgor Rhyngwasanaethau Cei Connah a Shotton. Gwnaethpwyd gwaith ar y gofeb gan gwmni Grosvenor Construction ac uwchraddiwyd y palmant gan gwmni GH Lewis & Sons. Meddai Arweinydd y Cyngor, Aaron Shotton: Mae’n hyfryd gweld y gwelliannau i’r gofeb hanesyddol hon. Rwy’n falch fod y safle a’r ardal o’i amgylch wedi’i adnewyddu mor ofalus er lles pobl yn y gymuned leol. Nodyn i Olygyddion Fe’ch gwahoddir i anfon ffotograffydd i’r digwyddiad, a fynychir gan urddasolion ddydd Mawrth 4 Awst am 11am. Cefndir Gosodwyd y Gofeb Ryfel ym mis Mai 1927 ar dir a roddwyd gan ymddiriedolwyr Ystad Plas Gwepra a chafodd ei chyflenwi a’i chodi gan saer maen lleol o Gei Connah, Mr. Edward Jones. Costiodd tua £1,000. Mewn twll o dan y sylfaen mae blwch derw sy’n cynnwys potel wedi’i selio ac ynddi mae darn o femrwn yn rhoi manylion hanes y gofeb ac enwau’r pwyllgor a’r cyn-filwyr y mae eu hymdrechion yn cael eu coffau; mae’r blwch hefyd yn cynnwys papurau newydd a bathodynnau a botymau milwrol y Ffiwsiliwyr Brenhinol Cymreig a Chatrodau eraill. Perfformiwyd y seremoni agoriadol gan y Cyrnol T.H.Parry a dywedodd yn ei anerchiad “This memorial was a sacred memorial and it would soon be so dedicated. Let all present, irrespective of age, so regard it. Let them see not a finger is put on it to mar it any way. Let them see that the names upon it now would be equally as visible for future generation to see.”