Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Enillwyr Gwobr y Faner Werdd

Published: 28/07/2015

Mae dau barc yn Sir y Fflint bellach wedi ennill Gwobr y Faner Werdd – y clod a roddir i barciau neu fannau gwyrdd o safon uchel gan Cadwch Gymru’n Daclus. Mae 110 o barciau a mannau gwyrdd yng Nghymru, sef y nifer fwyaf erioed, wedi cyrraedd y safon uchel sy’n ofynnol i ennill Gwobr y Faner Werdd neu Wobr Gymunedol y Faner Werdd. Mae Cyngor Sir y Fflint yn eithriadol o falch o ennill yr hawl i chwifio’r Faner Werdd mewn dau o’i barciau sef Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas a Parc Gwepra i gydnabod eu cyfleusterau ardderchog a’u hymrwymiad i ddarparu mannau gwyrdd o ansawdd gwych. Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod o’r Cabinet dros yr Amgylchedd: “Mae hwn yn acolad gwych i’n dau barc ardderchog sy’n lleoliadau hyfryd yn Sir y Fflint i ymwelwyr fwynhau prydferthwch cefn gwlad lleol. Mae Gwobr y Faner Werdd yn bartneriaeth ledled y DU, a ddarperir yng Nghymru gan Cadwch Gymru’n Daclus gyda chymorth Cyfoeth Naturiol Cymru. Caiff ei feirniadu gan fintai o arbenigwyr mannau gwyrdd, sy’n gwirfoddoli eu hamser i ymweld â safleoedd ymgeisiol a’u hasesu yn erbyn wyth o feini prawf caeth, gan gynnwys safonau garddwriaethol, glanweithdra, cynaliadwyedd ac ymgysylltiad cymunedol. Meddai Lucy Prisk, Cydgysylltydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus: “Rydym yn hynod falch o ddathlu blwyddyn sydd wedi torri record i gynllun Gwobrau’r Faner Werdd. Mae’r holl faneri sy’n chwifio eleni yn cynrychioli ymdrechion cannoedd o ddynion a merched, yn staff ac yn wirfoddolwyr, sy’n gweithio’n ddiflinio i gynnal y safonau uchel a ofynnir gan Wobr y Faner Werdd.” Gellir gweld rhestr o holl barciau’r Faner Werdd ar wefan HYPERLINK http://www.cadwchgymrundaclus.org www.cadwchgymrundaclus.org/yfanerwerdd Gallwch roi’ch parc neu’ch man gwyrdd ar y map drwy gymryd rhan hefyd. Edrychwch ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.cadwchgymrundaclus.org am fwy o wybodaeth. NODIADAU I OLYGYDDION 1. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: Barbara Milne, Cyngor Sir y Fflint ar 01352 702111 neu e-bostiwch barbara.milne@flintshire.gov.uk Lucy Prisk, Cydgysylltydd y Faner Werdd ar 029 20726964 / 07469 118876 neu e-bostiwch lucy.prisk@keepwalestidy.org 2. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn Elusen Amgylcheddol gofrestredig sy’n gweithio i wella amgylcheddau lleol Cymru. Edrychwch ar ein gwefan am fwy o wybodaeth: www.cadwchgymrundaclus.org 3. Mae Gwobr y Faner Werdd yn cydnabod parciau sydd wedi dangos safonau uchel Gwobr y Faner Werdd. Rhoddir pwyslais hefyd ar ymgysylltiad y gymuned leol i ofalu am y parc gwobredig yn barhaus ac yn y tymor hir. 4. Rhedir Cynllun Gwobrau’r Faner Werdd (http://greenflagaward.org/) gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Brydain yn Daclus, o dan drwydded gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, mewn partneriaeth â Keep Scotland Beautiful, Cadwch Gymru’n Daclus a Keep Northern Ireland Beautiful, Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol a’r Ffederasiwn Dai Genedlaethol. 5. Am fwy o wybodaeth am Wobr y Faner Werdd yng Nghymru edrychwch ar wefannau www.cadwchgymrundaclus.org or www.greenflagaward.org