Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn croesawu Taith Prydain Aviva

Published: 31/07/2015

Prif ddigwyddiad beicio ffyrdd seiclo Prydain yw Taith Prydain Aviva, sy’n rhoi cyfle i gefnogwyr weld timau a beicwyr gorau’r byd yn cystadlu ar eu stepen drws. Bydd Sir y Fflint yn croesawu Taith Prydain Aviva wrth i’r beicwyr fynd trwy’r Wyddgrug a Bwcle ar Gam 1 y ras ddydd Sul, 6 Medi. Bu miloedd ar y llwybr drwy Sir y Fflint y llynedd ac mae torfeydd mawr yn sicr o fod allan eto yn dangos eu cefnogaeth ir beicwyr eleni. Maer ras yn dechrau ym Miwmares, Ynys Môn yn gynharach yn y dydd ac yn teithio ar draws Gogledd Cymru i orffen Cam 1 yn Wrecsam. Dywedodd y Cyng. Kevin Jones, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Hamdden, “Mae Taith Prydain Aviva yn ddigwyddiad cyffrous, proffil uchel a bydd modd gweld uchafbwyntiaur digwyddiad ar y teledu ledled y byd. Rwyf wrth fy modd y bydd hyn ar sylw helaeth yn y wasg leol a chenedlaethol ac ar-lein yn dod â Sir y Fflint i sylw cynulleidfa ryngwladol enfawr. “Mae hwn yn gyfle gwych i bobl leol weld y gorau o seiclo rhyngwladol ac rwyf yn siwr y bydd torfeydd allan yn llu i fwynhau cyffro a gwefr y ras.” I gael manylion llawn am Daith Prydain Aviva, gan gynnwys amserlen llwybr ewch i www.tourofbritain.co.uk