Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun perchentyaeth cost isel

Published: 19/08/2015

Mae cynllun rhannu ecwiti perchentyaeth cost isel Cyngor Sir y Fflint yn gyfle gwych i bobl sengl, cyplau a theuluoedd i gymryd cam ar yr ysgol eiddo, gan alluogi pobl sydd wediâu prisio allan or farchnad dai ar hyn o bryd i fod yn berchen ar gartref eu hunain. Maer cynllun a weinyddir ar ran y Cyngor gan Grwp Cynefin, yn seiliedig ar yr egwyddor o rannu ecwiti ac yn helpu prynwyr tro cyntaf i fod yn berchen ar gartrefi. Maer prynwr yn cyllido 70% o werth yr eiddo, syn golygu blaendal llai a thaliadau morgais is. Nid ywr ecwiti yn fenthyciad sydd angen ei ad-dalu ac nid oes unrhyw rhent yn daladwy. Yn syml, maen golygu bod gan y Cyngor dÃl wediâi sicrhau yn erbyn yr eiddo i sicrhauâr benthyciad ecwiti o 30%. Pan fydd y prynwr yn penderfynu gwerthur cartref ymlaen, byddant yn derbyn 70% or pris gwerthu ar y pryd ar cyngor yn derbyn 30%, syân eu galluogi i ailgylchur arian neu ei ddefnyddio fel ecwiti ar gyfer cartref arall. Roedd pum eiddo ar gael iw prynu o dan y cynllun hwn ar ddatblygiad Persimmon yng Nghroes Atti yn Oakenholt ac maeâr prynwyr wedi symud i mewn iw cartrefi newydd. Mae tri tÅ teras 2 lofft dal ar gael ar y datblygiad cyfagos gan Anwyl a byddant yn barod ym mis Ionawr 2016. Dywedodd Paul Young a roddodd ei enw i lawr yn ddiweddar i gadw cartref ar gynllun datblygiad Anwyl yng Nghroes Atti: âMaer cynllun rhannu ecwiti gan Gyngor Sir y Fflint trwy Grwp Cynefin yn gynllun gwych ar gyfer person sengl fel fi. Heb y cynllun hwn ni fyddai bod yn berchen ar gartref fy hun yn fforddiadwy. âByddwn yn argymell y cynllun hwn i unrhyw un sydd eisiau gallu fforddio prynu cartref eu hunain. Maer cynllun yn rhoir cyfle i bobl sydd eisiau rhoi cam ar yr ysgol eiddo. Pob lwc i unrhyw un syn defnyddior cynllun hwn. Dywedodd y Cyng. Helen Brown, yr Aelod Cabinet Tai: âMaer cynllun yn rhoi cyfle i bobl i brynu cartref am bris fforddiadwy a byddwn yn annog unrhyw un syn chwilio am eu heiddo cyntaf i ddarganfod mwy am y cynllun Meddai Gwenan Jones, Rheolwr Tai Fforddiadwy gyda Grwp Cynefin, âMae eiddo rhannu ecwiti pellach ar gael ar hyn o bryd gan Anwyl - Cwrt Isaf Oakenholt, David Wilson Homes - Wepre Green, Redrow Cei Connah - Rhostiroedd Bwcle, Bloor Homes Parc -Jasmine, Broughton a Taylor Wimpey -Alyn Meadows Hope. âRydym hefyd yn falch iawn fod tri or pum tÅ sydd ar gael yn natblygiad Persimmon yng Nghroes Atti wediâu gwerthu i brynwyr gyda chysylltiad lleol i Oakenholt a Fflint, gydar ddau brynwr arall gyda chysylltiadau lleol i gymunedau cyfagos. I gael rhagor o fanylion am y cynlluniau uchod neu i gofrestru diddordeb yn natblygiadauâr dyfodol, cysylltwch à Grwp Cynefin ar 0300 111 2122, E-bost: affordablehomes@grwpcynefin.org Gwefan: www.grwpcynefin.org