Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Trigolion lleol i dderbyn gwybodaeth bwysig ynghylch cofrestru i bleidleisio

Published: 07/08/2015

Fel rhan o ganfasiad blynyddol Sir y Fflint, mae cartrefi ar draws y sir wedi derbyn ffurflen yn gofyn i drigolion wirio a ywr wybodaeth syn ymddangos ar y gofrestr etholiadol ar gyfer y cyfeiriad yn gywir. Y nod yw sicrhau bod y gofrestr etholiadol yn gyfoes a chanfod preswylwyr nad ydynt wedi cofrestru er mwyn eu hannog i wneud hynny. Gan fod etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn cael eu cynnal fis Mai 2016, dyma gyfle cynnar i breswylwyr wneud yn siwr y byddant yn gallu cymryd rhan. Dywedodd Colin Everett, Swyddog Cofrestru Etholiadol Sir y Fflint: “Mae’n rhaid i unrhyw un syn awyddus i bleidleisio gofrestru. I wneud yn siwr eich bod yn gallu dweud eich dweud yn yr etholiadau y flwyddyn nesaf, y cwbl sydd arnoch chi angen ei wneud yw gwirior ffurflen. Os nad yw’r manylion wedi newid gallwch ymateb dros y ffôn, ar-lein neu drwy neges destun yn rhad ac am ddim. Os yw’r manylion wedi newid gallwch ddiweddaru’r wybodaeth yn www.registerbyinternet.com/flintshire neu gallwch anfon eich ffurflen yn ôl atom ni. Ymatebwch erbyn 17 Awst fel y gallwn arbed arian wrth beidio â gorfod anfon nodyn atgoffa atoch chi”. “Os nad ydych chi wedi cofrestru, byddwn yn anfon gwybodaeth yn esbonio sut i wneud hynny neu gallwch gyflwyno cais i gofrestru ar-lein yn www.gov.uk/register-to-vote. “Maen bwysig bod unrhyw un sydd wedi symud cyfeiriad yn ddiweddar yn cadw llygad am yr wybodaeth hon er mwyn sicrhau eu bod wedi cofrestru. Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth Swyddfa Cymru yn y Comisiwn Etholiadol: “Maer canfasiad blynyddol yn gyfle i bobl wirio a ydynt wedi cofrestru. Er lles democratiaeth iach mae’n hanfodol bod pawb sydd â hawl i bleidleisio yn gallu pleidleisio, ac mae cofrestru i bleidleisio yn haws nag erioed gydar system gofrestru ar-lein hon. “Os ydych chi wedi symud cyfeiriad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, maen debyg y bydd arnoch chi angen cofrestru yn eich cyfeiriad newydd, felly gwnewch yn siwr eich bod yn gwirio’r ffurflen cyn gynted ag y bydd yn cyrraedd. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn ffoniwch y tîm etholiadau ar 01352 702412 neu anfonwch e-bost i register@flintshire.gov.uk.