Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arddangosfa o wasanaethau 2015

Published: 12/08/2015

Bydd arddangosfa o waith Timau Gwasanaethau Cefn Gwlad a Thwristiaeth Cyngor Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn y sioe sirol flynyddol ar y Grîn, Dinbych ddydd Iau, 20 Awst. Archwilio tref a chefn gwlad fydd y thema ar gyfer arddangosfa ar y cyd y cynghorau. Bydd arddangosiadau ac arddangosfeydd yn cynnig cyngor a gwybodaeth am sut y gall preswylwyr ac ymwelwyr fwynhau’r cefn gwlad hardd, pentrefi, hanes a threftadaeth yn Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Bydd arddangosfeydd allanol yn cynnwys gwaith y Ceidwaid Cefn Gwlad gan ddefnyddio gweithgareddau ac arddangosfeydd i helpu pob oedran werthfawrogi a deall ein hamgylchedd gwledig gwych. Bydd arddangosfeydd yn y babell fawr yn cynnwys Teithio Byw (Cymru) a gwybodaeth am y cyfoeth o weithgareddau a lleoedd i ymweld â nhw ar draws y ddwy sir. Bydd arddangosfa am Ardal o Harddwch Naturiol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy hefyd gan ei bod yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 eleni. Bydd planhigfeydd Triffordd o Sir y Fflint yn arddangos y planhigion maent yn eu tyfu. Gall ymwelwyr ir arddangosfa roi cynnig ar raffl i ennill basged yn llawn o gynnyrch lleol. Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton: “Dymar seithfed flwyddyn y byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych ac eleni byddwn yn dangos sut mae pob oedran yn gallu mwynhaur cyfoeth o atyniadau sydd ar gael yn y ddwy sir.” Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans OBE “Mae’r ddau gyngor yn falch o weithio gydai gilydd a chefnogi’r sioe unwaith eto, syn ddigwyddiad poblogaidd a phwysig yn y calendr amaethyddol blynyddol. Nodyn i olygyddion: Am ragor o wybodaeth, cysylltwch âr Tîm Cyfathrebu Corfforaethol ar 01352 702112.