Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyflwyno Ffioedd Parcio

Published: 17/08/2015

Cafodd strategaeth barcio sirol, syn cynnwys cyflwyno ffioedd parcio ym mhob maes parcio tref syn eiddo ir Cyngor Sir, ei chymeradwyo gan Gabinet y Cyngor fis Ebrill. Bydd y strategaeth newydd yn darparu dull cyson ar gyfer parcio oddi ar y stryd mewn meysydd parcio. Mae mesurau parcio a gorfodaeth yn allweddol i reoli’r rhwydwaith priffyrdd yn effeithiol ac i helpu i osgoi tagfeydd. Mae rheoli parcio oddi ar y stryd yn effeithiol yn hanfodol i gynnal bywiogrwydd ac egni tref. Bydd y ffioedd parcio yn cael eu gweithredu’n raddol ar draws y sir rhwng rwan a diwedd y flwyddyn. Bydd ffioedd yn cael eu cyflwyno ym Mwcle ddydd Llun 17 Awst a bydd ffioedd newydd yn cael eu cyflwyno yng nghanol tref yr Wyddgrug. Mae amserlen gweddill y sir fel a ganlyn: Medi – Treffynnon Hydref - Y Fflint, Cei Connah, Queensferry, Shotton I’w cadarnhau - Neuadd y Sir, yr Wyddgrug Maer rhestr lawn o’r trefi a’r meysydd parcio yr effeithir arnynt, ynghyd â’r ffioedd a’r oriau y codir tâl, ar gael ar wefan y Cyngor. Nid oes unrhyw gynllun i gyflwyno ffioedd i’r rheiny â bathodynnau glas sy’n parcio ym meysydd parcio’r Cyngor mewn mannau parcio dynodedig ir anabl. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd ar Dirprwy Arweinydd: “Mae’r Strategaeth Parcio yn cael ei chyflwyno fel rhan o’n her i ganfod arbedion effeithlonrwydd o £18 miliwn a mwy yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Rydym ni wedi addasur cynigion gwreiddiol i gymryd prif bryderon a godwyd yn ystod ymgynghoriadau i ystyriaeth, a hoffwn ddiolch i bawb a rannodd eu barn.