Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Newidiadau i wasanaeth bws gwennol Glannau Dyfrdwy

Published: 18/08/2015

Ni fydd bws gwennol Glannau Dyfrdwy, syn darparu cludiant ar y galw i weithwyr Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy sy’n byw yn Sir y Fflint, yn cynnig gwasanaeth o ddrws i ddrws y gellir ei archebu ymlaen llaw. Cymeradwywyd y newid hwn gan Gabinet y Cyngor ym mis Mai fel rhan o adolygiad o wasanaethau bws cymorthdaledig. Mae lefel y cymhorthdal ??ar gyfer y gwasanaeth hwn yn uchel iawn (£6 y teithiwr) ac nid yw bellach yn fforddiadwy. Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i deithwyr ffonio ac archebu eu teithiau ar fws gwennol Glannau Dyfrdwy drwy drefniant tebyg i ganolfan alwadau. Bydd y rhan hon o’r gwasanaeth yn dod i ben. Bydd y gwasanaeth newydd yn debyg iawn i wasanaethau cludiant cyhoeddus eraill, gydag amserlen ac arosfannau sefydlog. Bydd y pwyslais yn parhau ar gludo pobl i’r gwaith ac yn ôl mewn ffordd effeithlon ond bydd yn gweithredu fel gwasanaeth cyflym gan stopio mewn safleoedd penodol ar hyd y llwybr. Bydd teithiau hyd at 31 Awst 2015 (gan gynnwys y dyddiad hwnnw) yn parhau heb eu newid, a dylai teithwyr ffonio ac archebu eu seddi yn ôl yr arfer. O ddydd Mawrth 1 Medi 2015 bydd yn rhaid i deithwyr fynd ir arhosfan bws agosaf a dal un or bysus a fydd yn eu cludo i’r gwaith ar amser. Bydd y llwybrau a’r amserlenni ar gael mewn llyfrgelloedd lleol, yng Nghanolfannau Cyswllt Sir y Fflint ac yn www.flintshire.gov.uk/DRT. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn am y gwasanaeth anfonwch e-bost at streetscene@flintshire.gov.uk neu ffoniwch 01352 701234. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd: “Roedd yr adolygiad hwn yn angenrheidiol oherwydd lefel yr arbedion ariannol yr oedd yn rhaid i’r Cyngor eu gwneud. Fodd bynnag, maen bwysig ein bod ni’n cefnogi economi Sir y Fflint a thrwy ddisodli bws gwennol Glannau Dyfrdwy gydar llwybrau newydd hyn bydd trigolion Sir y Fflint yn parhau i gael mynediad at waith ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.