Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhaglenni Gwella Priffyrdd

Published: 19/05/2014

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn dechrau gwaith ar raglen trin wyneb priffyrdd ym mis Mehefin a fydd yn helpu i wella cyflwr ffyrdd gwledig y Sir. Bydd y rhaglen gwerth £500,000 yn gweld bron 20 o ffyrdd gwledig neu rannau o ffyrdd yn cael eu gwella ar draws Sir y Fflint. Yn ogystal, bydd rhaglen gwerth £250,000 o drwsio lonydd cerbydau sy’n gwneud atgyweiriadau parhaol i’r ffyrdd hynny nad oes angen triniaeth ailwynebu llawn yn dechrau ym mis Mehefin hefyd. Mae’r ddwy gontract yma’n cael eu hariannu o gyllideb cynnal priffyrdd y Cyngor a gyda’i gilydd maent yn dod â chyfanswm y buddsoddiad yn y rhwydwaith ffyrdd lleol yn y flwyddyn ariannol gyfredol i dros £2.5m. Mae pob un o’r ffyrdd yn y Sir wedi’u harchwilio i asesu eu cyflwr yn dilyn misoedd y gaeaf gan staff o’r Gwasanaethau Stryd. Mae’r archwiliadau hyn wedi sicrhau bod y ffyrdd sydd ag angen eu hatgyweirio fwyaf yn derbyn y sylw sydd ei angen arnynt. Fel ag yn y blynyddoedd blaenorol, bydd angen gorchmynion cau ffyrdd a gwyriadau dros dro, yn ystod cyfnod y gwaith, er mwyn diogelwch y contractwyr sy’n gwneud y gwaith yn ogystal â defnyddwyr y ffyrdd. Bydd arwyddion ymlaen llaw yn cael eu gosod wrth bob lleoliad, yn rhoi gwybod i bobl pryd y mae’r gwaith i fod i ddechrau a byddai’r Cyngor yn gwerthfawrogi amynedd y cyhoedd sy’n teithio a phreswylwyr lleol yn ystod cyfnod y gwaith. Bydd manylion rhaglen trin yr wyneb a’r rhaglen drwsio ar gael ar wefan y Cyngor yn ddiweddarach yr wythnos hon. Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd: “Dyma’r ail gyhoeddiad pwysig ynghylch buddsoddiad yn ffyrdd y Sir yn yr ychydig wythnosau diwethaf ac eto mae’n pwysleisio pwysigrwydd rhwydwaith priffyrdd wedi’i gynnal yn dda i Gyngor Sir y Fflint.’’