Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Anrhydeddu Cynghorau mewn sioe sirol

Published: 21/08/2015

Mae Cyngor Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn dathlu ennill y stondin anamaethyddol Gorau yn Sioe Dinbych a Fflint eleni, a gynhaliwyd yn Y Green, Dinbych ddoe (Dydd Iau, 20 Awst).  Archwilio Tref a Gwlad oedd y thema ar gyfer presenoldeb eleni ar y cyd, gyda ffocws ar hyrwyddo llwybrau tref yn y ddwy sir, safleoedd treftadaeth ac arddangosfa Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i ddathlu ei ben-blwydd yn 30. Mae gweithgareddau awyr agored yn cynnwys llwybr beicio, gêm croce i hyrwyddor Cod Cefn Gwlad, gwneud modelau cast yn ymwneud ag ymestyn Rheilffordd Llangollen i Gorwen a sesiynau cerdded Nordig. Cafwyd yr arddangosfa flodau helaeth y tu allan i’r babell gan Feithrinfeydd Triffordd yn Sir y Fflint. Dywedodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler, Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych: “Roeddem wrth ein boddau yn cael yr anrhydedd hon ar gyfer ein presenoldeb eleni.  Mae archwilio ein trefi an gwlad yn rhywbeth y mae’r ddwy sir a’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn ei hyrwyddo, ac mae maes y sioe yn lleoliad delfrydol i arddangos yr hyn sydd ar gael yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.” Dywedodd y Cynghorydd Ray Hughes, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint: “Maer ddau gyngor wedi gweithio gydai gilydd am nifer o flynyddoedd i drefnu’r presenoldeb ar y cyd yn y Sioe. Roeddem wrth ein bodd â sylwadaur beirniaid am ein pabell a’n gweithgareddau ac roeddem yn gwerthfawrogir cyfle i hyrwyddo ein siroedd, ond hefyd i siarad â thrigolion am faterion sydd o ddiddordeb iddyn nhw.