Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Argyfwng Ffoaduriaid

Published: 04/09/2015

Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Aaron Shotton: “Wrth i ni wylio trasiedi’r ffoaduriaid yn datblygu, sy’n ffoi oddi wrth ryfel ac erledigaeth i chwilio am loches yn Ewrop, mae’n hanfodol fod Llywodraeth Leol ar draws Cymru’n gweithredu i ddarparu diogelwch a lloches i ffoaduriaid sydd wedi symud o Syria a gwledydd eraill. Ni fydd Cyngor Sir y Fflint yn troi ei gefn ar y rheiny sy’n wynebu’r argyfwng dyngarol hwn. “Mae’r Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid cenedlaethol ar hyn o bryd i gynnig cymorth uniongyrchol. Byddwn yn cymryd rhan lawn mewn dull unedig gan gynghorau ac asiantaethau cymorth tai a phartneriaid o’r sector gwirfoddol ledled Cymru a’r DU i ddarparu lloches a chymorth dyngarol i ffoaduriaid. “Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sy’n cydgysylltu gwaith cynghorau Cymru a bydd yn dod yn fwy clir dros y dyddiau nesaf faint o gymorth y bydd angen i ni ei gynnig. “Rydym yn annog cymunedau Sir y Fflint i gynorthwyo ein safiad a rhoi arian a chyflenwadau tuag at waith elusennol y prif asiantaethau cymorth cenedlaethol.”