Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith cynnal a chadw priffordd y B5101 yn Ffrith

Published: 09/09/2015

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi ei fod wedi sicrhau cyllid i gynnal a chadwr B5101 yn Ffrith rhwng Old Gate House, ger Ffrith Hall a chyffordd Minera Road ar y B5102 am bum wythnos o ddydd Llun 14 Medi ymlaen. I hwylusor gwaith, bydd y darn hwnnw or B5101 rhwng Old Gate House a chyffordd Minera Road ar y B5102 ar gau i draffig trwodd ond bydd arwyddion yn cael eu gosod i ddangos y ffordd arall ar gyfer traffig. Mae angen caur ffordd er mwyn diogelur rhai syn defnyddior briffordd ar rhai syn gweithio ar y briffordd. Maer Cyngor yn ymddiheuro am unrhyw oedi ac anhwylustod y bydd y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn yn ei achosi. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: Rwyn falch eich bod wedi sicrhau cyllid ar gyfer y cynllun allweddol hwn i gynnal a chadwr brif ffordd i Ffrith. Mae hyn eton dangos ymrwymiad y weinyddiaeth bresennol i gynnal y rhwydwaith presennol.