Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Ailethol Arweinydd a Dirprwy Arweinydd
  		Published: 20/05/2014
Cafodd y Cynghorydd Aaron Shotton ei ailethol yn Arweinydd Cyngor Sir y Fflint 
yn y Cyfarfod Blynyddol heddiw (dydd Mawrth 20 Mai).
Yn aelod o Gyngor Sir y Fflint ers 1999, cafodd y Cynghorydd Shotton ei ethol 
yn Arweinydd ym Mai 2012 yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol. Mae’r Cyng. 
Shotton hefyd yn gyfrifol am Gyllid yn y Cabinet ers Mai 2012. 
Mae’n cynrychioli Ward Canol Cei Connah.
Mae’r Cynghorydd Shotton hefyd yn Ddirprwy Arweinydd a Llefarydd dros Gyllid ac 
Adnoddau ar Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac mae’n aelod o Gyngor 
Partneriaeth Cymru.
Mae’r Cynghorydd Shotton yn aelod o gyrff llywodraethu Ysgol Gynradd Bryn Deva 
ac Ysgol Uwchradd Cei Connah.
Mae’n aelod o Gyngor Tref Cei Connah ers 1996 a bryd hynny ef oedd y cynghorydd 
Llafur ifancaf ym Mhrydain. Roedd hefyd yn gwasanaethu Cei Connah fel Cadeirydd 
Cyngor y Dref yn 2003.
Mae’r Cynghorydd Bernie Attridge wedi ei ailethol yn Ddirprwy Arweinydd. 
Yn aelod o’r Cyngor Sir ers 2004, cafodd y Cynghorydd Attridge ei ethol yn 
Ddirprwy Arweinydd ym Mai 2012 yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol. Mae’r 
Cynghorydd Attridge yn gyfrifol am yr Amgylchedd yn y Cabinet ers Mai 2012.  
Mae’n cynrychioli Ward Canol Cei Connah ac yn aelod o Gyngor Tref Cei Connah 
ers 14 blynedd ac yn gyn-gadeirydd.
Cyn dod yn Gynghorydd Sir roedd yn bartner mewn cwmni tacsis.