Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Camun ôl mewn amser

Published: 16/09/2015

Bydd staff Archifdy Sir y Fflint yn camu’n ôl mewn amser i gyfnod y 50au a’r 60au pan fyddant yn cynnal digwyddiad i nodi Wythnos Positif am Oed. Bydd staff yn dwyn i gof y cyfnod y ‘beatnik’ a’r hipis am 2pm ddydd Mercher 30 Medi yn ‘Cofio’r 50au a’r 60au’. Digwyddiad di-dâl fydd hwn i bawb a fyddai’n mwynhau’r cyfle i hel atgofion am y dyddiau da. Bydd hen luniau, papurau newydd, arteffactau o’r amgueddfa a cherddoriaeth o’r ddwy ddegawd i helpu ymwelwyr i gofio’r cyfnod a rhannu straeon ac atgofion dros baned a chacen. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Chris Bithell: “Mae Wythnos Positif am Oed yn gyfle blynyddol i ddathlu’r holl agweddau da ar heneiddio ac rwy’n falch iawn o ddweud bod Archifdy Sir y Fflint yn cymryd rhan ac yn ei gefnogi. Byddwn yn annog pawb sy’n cofio’r 50au a’r 60au i fynd draw a hel atgofion yn y digwyddiad difyr hwn.” I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, ffoniwch Archifdy Sir y Fflint ym Mhenarlâg ar 01244 532364 neu anfonwch e-bost at: archives@flintshire.gov.uk Cewch ragor o wybodaeth am Wythnos Positif am Oed yn www.ageuk.org.uk/cymru/get-involved/age-positive-week1