Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Y Llys yn anfon preswylwyr o Sir y Fflint i garchar am beidio â thalur Dreth Gyngor
  		Published: 16/09/2015
Mae gofyn i dros 67,000 o breswylwyr yn Sir y Fflint dalu’r Dreth Gyngor ac er 
fod y mwyafrif ohonynt yn talu eu biliau, mae nifer fach sy’n gwrthod talu 
neu’n esgeuluso eu taliadau.
Mewn achosion eithriadol, mae preswylwyr sydd wedi bod yn y llys ar gyfer 
gwrandawiadau Gorchymyn Dyled, ond sy’n dal i wrthod neu esgeuluso eu taliadwy, 
ambell waith yn cael eu cyfeirio’n ôl at y llys fel rhan o wrandawiadau 
traddodi.
Gofynnir i’r llys wedyn ystyried p’un a yw’r preswylydd yn euog o wrthod yn 
fwriadol neu o esgeulustod ar fai.  Os yw’r Llys yn canfod fod preswylydd wedi 
gwrthod talu’n fwriadol neu’n esgeulus, mae gan yr Ynadon rymoedd i roi dedfryd 
o garchar i’r preswylydd hyd at uchafswm o 90 diwrnod.
Mae carchariad diweddar dau o breswylwyr Sir y Fflint, un am 90 diwrnod ac un 
arall am 40 diwrnod, am esgeuluso eu biliau’r Dreth Gyngor wedi amlygu pa mor 
bwysig yw gwneud taliadau neu ddod i gytundeb talu synhwyrol gyda’r Cyngor o 
leiaf. 
Meddai Clare Budden, Prif Swyddog Cymuned a Menter: “Mynd ag achosion i’r llys 
yw’r dewis olaf bob tro ac mae’n well gennym weithio gyda phreswylwyr neu eu 
gweithwyr cyngor dyledion i ddatrys problemau talu cyn i achosion gael eu 
cyfeirio’n ôl i’r llysoedd.  Byddwn bob amser yn erlyn y rheiny sy’n methu neu 
sy’n gwrthod talu’r Dreth Gyngor, ac fel mae’r achosion hyn yn dangos, gall 
methu â thalu’n barhaus arwain at ganlyniadau difrifol neu garchar hyd yn oed.”