Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhaglen Gyfalaf

Published: 10/11/2020

Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol Cyngor Sir y Fflint yn ystyried ac yn gwneud sylwadau ar adroddiad ar Raglen Gyfalaf y Cyngor 2021/22 – 2023/24, pan fydd yn cyfarfod ddydd Iau, 12 Tachwedd. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yr wythnos wedyn. 

Mae Rhaglen Gyfalaf y Cyngor yn cynnwys buddsoddiadau mewn asedau ar gyfer y tymor hir er mwyn gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel sy’n rhoi gwerth am arian. Mae’r asedau’n cynnwys adeiladau (fel ysgolion a chartrefi gofal), isadeiledd (fel priffyrdd, rhwydweithiau TG a gorsafoedd trosglwyddo gwastraff), ac asedau nad ydynt yn perthyn i'r Cyngor (fel gwaith i wella ac addasu cartrefi'r sector preifat). Mae’r buddsoddiadau cyfalaf sy’n cael eu cynnig yn cyd-fynd â chynlluniau busnes gwasanaethau portffolios a Chynllun y Cyngor.

Cyfyngedig yw’r adnoddau mae’r Cyngor yn eu cael gan Lywodraeth Cymru i gefnogi blaenoriaethau, anghenion ac atebolrwydd y Cyngor. Fodd bynnag, mae ganddo bwerau i ariannu cynlluniau cyfalaf drwy fenthyg – trefniant dros dro yw hyn ac yn y pen draw, mae unrhyw fenthyciad yn costio ac yn cael ei ad-dalu o gyllideb refeniw’r Cyngor, felly mae angen eu hystyried yn ofalus. 

Mae’r adroddiad yn rhannu Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor yn dair rhan: 

  • Statudol / Rheoleiddiol – dyraniadau ar gyfer gwaith rheoleiddiol a statudol, gan gynnwys:
    • Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl;
    • Y Ddeddf Cydraddoldeb – lle mae’r gyllideb angen cynyddu o £0.50 miliwn i £0.300 miliwn i barhau i wneud gwaith addasu ysgolion.
  • Asedau wedi’u Cadw – dyraniadau i ariannu gwaith isadeiledd sy’n angenrheidiol i sicrhau parhad gwasanaeth a busnes:
    • Uwchraddio cyfarpar ceginau ysgolion – mae cynllun newydd wedi’i gynnwys yn y gyllideb i uwchraddio hen gyfarpar
    • Gliniaduron/cyfrifiaduron newydd – rhaglen ddisodli "ar y funud olaf" i sicrhau bod y Cyngor yn gwneud y mwyaf o oes ddefnyddiol ei liniaduron a’i gyfrifiaduron;
    • Uwchraddiadau i gamerâu TCC mewn mannau cyhoeddus – prosiect i uwchraddio camerâu TCC i’r dechnoleg ddiweddaraf.
  • Buddsoddi – dyraniadau i ariannu’r gwaith angenrheidiol i ail-lunio gwasanaethau i wneud arbedion effeithlonrwydd sydd wedi’u nodi mewn cynlluniau busnes portffolios a buddsoddi mewn gwasanaethau fel y maent wedi’u cynnwys yng Nghynllun y Cyngor:
    • Gwelliannau i Ysgol Uwchradd Castell Alun yn yr Hôb;
    • Estyniad i gartref gofal preswyl Marleyfield ym Mwcle;
    • Addasiadau i gartrefi gofalwyr maeth er mwyn gallu darparu lle addas i gefnogi plentyn;
    • Cyfleuster Archifau ar y cyd i Sir y Fflint a Sir Ddinbych – cyfleuster modern yn lle’r ddau gyfleuster presennol sy’n hen ac yn anaddas at eu pwrpas.

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Cyngor Sir y Fflint: 

"Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o raglen y Cyngor wedi’i hariannu o arian sy’n elw i’r Cyngor, ond mae’n mynd yn fwy anodd gwneud elw ac mae hwnnw bron wedi darfod. Fe fyddwn ni’n chwilio am asedau i’w gwerthu i helpu i ariannu’r Rhaglen Gyfalaf lle bo modd." 

Mae opsiynau i ariannu’r diffyg yn cynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau amgen a chyflawni cynlluniau mewn camau gan y gallai proffil gwariant prosiectau mawr cymhleth newid. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod ffynonellau eraill o gyllid yn cael eu defnyddio i ariannu’r rhaglen.

Er hynny, os na fydd ffynonellau eraill o gyllid ar gael, bydd angen i’r Cyngor fenthyca’n ddarbodus i ariannu’r bwlch. 

Aeth y Cynghorydd Banks yn ei flaen:

"Fe fyddwn ni’n ceisio sicrhau bod y ffynonellau cyllid uchod yn cael eu defnyddio’n llawn er mwyn i ni, er gwaethaf yr heriau digynsail yma, allu parhau gyda’n Rhaglen Gyfalaf glir ac uchelgeisiol ar gyfer isadeiledd ac ysgolion. Rydw i’n falch y byddwn ni’n gallu gwneud y gwelliannau yma yn ein hysgolion a’n cartrefi gofal, sy’n dangos bod Cyngor Sir y Fflint yn dal i fod yn un blaengar ac arloesol sy’n buddsoddi yn lles trigolion y Sir."