Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru – Adroddiad ar y Fargen Dwf Derfynol

Published: 09/11/2020

Ddydd Iau 12 Tachwedd bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol Cyngor Sir y Fflint yn adolygu adroddiad, sy’n cynnwys y dogfennau allweddol sydd angen eu cymeradwyo i wneud cytundeb terfynol Bargen Dwf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. 

Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yr wythnos nesaf er mwyn ei ardystio’n ffurfiol. Mae’r gydnabyddiaeth fawr hon o’n rhanbarth gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gam allweddol yn hanes ein rhanbarth. Mae chwe chyngor a holl brifysgolion a cholegau addysg bellach y rhanbarth yn adolygu ac yn cymeradwyo’r adroddiadau hyn i sicrhau y gwneir y fargen derfynol erbyn y flwyddyn newydd. 

Meddai Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cyng. Derek Butler:

"Mae’r cydweithio rhwng bob sefydliad wedi bod yn bartneriaeth ranbarthol sylweddol a chadarnhaol - y rhanbarth yn cydweithio fel un. Mae hyn yn cynnig rhaglen fuddsoddi fawr ac effaith gadarnhaol go iawn ar ein gwerth ychwanegol gros. Dydi’r Fargen Dwf ar ei phen ei hun ddim yn gallu mynd i’r afael â’r holl heriau sy’n wynebu economi gogledd Cymru, yn enwedig ar ôl Covid-19. Fodd bynnag, bydd chwistrellu buddsoddiad cyfalaf sylweddol i economi gogledd Cymru drwy'r Fargen Dwf yn hwb i’r sector adeiladu ac i sectorau cysylltiedig ar adeg pan fo capasiti dros ben yn yr economi yn debygol." 

Yn 2016 mabwysiadodd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru Weledigaeth Dwf ar gyfer economi gogledd Cymru. Yn seiliedig ar Strategaeth y Weledigaeth Dwf, ym mis Hydref 2018 bu i bartneriaid a oedd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a’r sector preifat baratoi a chytuno ar Fargen Dwf. Ym mis Tachwedd 2019 cytunodd y Bwrdd Uchelgais Economaidd, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar benawdau'r telerau ar gyfer Cytundeb Bargen Derfynol i’w gwblhau yn 2020. 

Mae Bargen Dwf Gogledd Cymru yn bortffolio sy’n cynnwys 5 rhaglen i’w darparu yn ystod y 15 mlynedd nesaf. Bydd Swyddfa Rheoli’r Portffolio yn darparu’r rhaglenni ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Mae’r Fargen Dwf yn ceisio cyflawni cyfanswm buddsoddiad o hyd at £1.1 biliwn ar gyfer economi gogledd Cymru (£240 miliwn o’r Fargen Dwf) i greu 3,400 i 4,200 o swyddi ychwanegol net ac i gynhyrchu gwerth ychwanegol gros net ychwanegol o £2.0 - £2.4 biliwn.

Mae’r 5 rhaglen yn cynnwys 14 prosiect a phob un wedi’i ddylunio a’i ddatblygu’n ofalus gyda budd-ddeiliaid i fynd i’r afael â methiannau penodol yn y farchnad a rhwystrau i dwf economaidd.

Mae’r Bwrdd Uchelgais Economaidd wedi ymrwymo i wneud Cytundeb Bargen Derfynol gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU erbyn diwedd mis Rhagfyr 2020.