Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Yr Adroddiad Diogelu Corfforaethol Blynyddol

Published: 11/11/2020

Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint adolygu a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Panel Diogelu Corfforaethol pan fydd yn cwrdd ddiweddarach fis yma. 

Dylai bod holl weithwyr y Cyngor, beth bynnag fo’u gwasanaeth, yn cefnogi'r ddyletswydd i ddiogelu. Ffurfiwyd y Panel Diogelu Corfforaethol (y Panel) fis Rhagfyr 2015 ac mae’r adroddiad yn nodi’r camau a gymerwyd i sicrhau bod gan y Cyngor drefniadau diogelu corfforaethol cadarn ar waith. Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • Darparu hyfforddiant diogelu arddull drama i’r sector Blynyddoedd Cynnar
  • Cynnwys cymalau diogelu o fewn gofynion trwyddedu gyrwyr tacsis
  • Darparu hyfforddiant diogelu i dros 400 o yrwyr tacsis i sicrhau eu bod yn adnabod arwyddion camdriniaeth bosib a sut i adrodd achosion o’r fath
  • Gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru ar Operation Encompass (menter i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n dioddef neu’n gweld yr heddlu yn delio â digwyddiadau cam-drin domestig)
  • Gweithdai Cyfiawnder mewn Diwrnod Theatr Clwyd. Roedd y perfformiad rhyngweithiol hwn yn cynnwys gweithdy gyda thîm o actorion proffesiynol ac ymweliad cyfranogol â Llys yr Ynadon, yr Wyddgrug, lle’r oedd ynad go iawn hefyd yn cymryd rhan

Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint ac aelod o’r Panel: 

"Yn adroddiad ei arolwg ar Awdurdod Addysg Lleol Sir y Fflint yn 2019 mae Estyn yn canmol y Panel, ac mae Arolygiaeth Gofal Cymru hefyd wedi cydnabod gwaith y panel. Mae’r Grwp Diogelu traws-wasanaethau yn dechrau dylanwadu’n gadarnhaol ar waith ysgolion arloesi Sir y Fflint, sydd wrthi’n datblygu agwedd iechyd a lles y cwricwlwm newydd.

"Mae Sir y Fflint yn ymrwymo i’w gyfrifoldebau ac, fel y nodir yn yr adroddiad, mae wedi cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod trefniadau cadarn ar waith i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion."

Ychwanegodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau Cyngor Sir y Fflint, sydd hefyd yn aelod o’r panel:

"Mae’r adroddiad yn amlygu straeon newyddion da gan gynnwys enghraifft o sut bu i gydweithio rhwng ein Gwasanaethau Tai, ein Tîm Diogelu Oedolion a sefydliad trydydd sector ddiogelu dioddefwr benywaidd rhag caethwasiaeth fodern. Ar ôl i’r Tîm Tai adnabod y dioddefwr ac adrodd eu pryderon, cafodd y ferch gymorth priodol a lle mewn ty noddfa.

"Mae hyn yn dangos pa mor bwysig ydi hi i bob gweithiwr a chontractwr fynegi eu pryderon er mwyn sicrhau bod modd cynnal ymchwiliadau a chymryd camau gweithredu priodol."

Mae’r camau gweithredu allweddol i’w cwblhau yn 2020/21 yn cynnwys:

  • Cymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Diogelu 2020 i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o faterion diogelu, gan gynnwys caethwasiaeth fodern
  • Annog gweithwyr i gwblhau modiwl e-ddysgu Llywodraeth Cymru "Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn Erbyn Menywod" i gyrraedd cyfradd cwblhau o 100% erbyn mis Mawrth.
  • Codi ymwybyddiaeth o Weithdrefnau Diogelu newydd Cymru.