Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Wythnos Gofalwn Cymru - Llwybrau i Ofal Cymdeithasol

Published: 12/11/2020

Yn ystod Wythnos Gofalwn Cymru rhwng 16-22 Tachwedd, mae Cymunedau am Waith yn gweithio mewn partneriaeth gyda Thîm Datblygu'r Gweithlu Cyngor Sir y Fflint i gyflwyno rhaglen hyfforddiant ‘Llwybr i Ofal Cymdeithasol’ am y trydydd tro. 

Mae’r rhaglen yma’n rhoi cyfle i bobl leol gael yr hyfforddiant ac ennill y sgiliau sy’n angenrheidiol i weithio ym maes Gofal Cymdeithasol, yn darparu gofal a chefnogaeth i’r bobl fwyaf diamddiffyn yn ein cymdeithas.

Mae’r hyfforddiant a fydd yn cael ei gynnal dros y we trwy gyfrwng Zoom, yn cynnwys hyfforddiant achrededig ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys; Cymorth Cyntaf, Iechyd a Diogelwch, Rheoli Haint, Diogelwch Bwyd a Diogelu. 

Ar ddiwedd y rhaglen, bydd cyflogwyr gofal lleol hefyd ar gael i ddarparu gwybodaeth am y swyddi gwag sydd ar gael i gyfranogwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: 

"Yn ddiweddar, mae pawb ohonom wedi gweld pwysigrwydd y rhai sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar, ac mae Cymru angen pobl dosturiol, dyfeisgar a chreadigol i gefnogi unigolion i fyw eu bywydau i’r eithaf. Bydd Cymru angen 20,000 yn fwy o bobl i weithio mewn rolau gofalu gydag oedolion a phlant yng Nghymru erbyn 2030 er mwyn bodloni'r galw cynyddol am wasanaethau gofal a darparu cymorth i gymunedau ledled y wlad." 

Rhaglen wirfoddol yw Cymunedau am Waith, sy’n helpu’r oedolion hynny sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur i ddod o hyd i waith. Mae’r rhaglen yn targedu oedolion sy’n economaidd anweithgar ac yn ddi-waith yn hirdymor a phobl 16-24 oed nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg nac hyfforddiant ar draws Sir y Fflint. Mae’n ceisio gwella eu cyflogadwyedd yn ogystal â’u helpu i ddod o hyd i, neu wella eu cyfle i ddod o hyd i waith.

Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler: 

"Yn ystod y cyfnod digynsail yma, mae Cymunedau am Waith Sir y Fflint yn parhau i ddarparu cefnogaeth amhrisiadwy i unigolion sy’n chwilio am waith. Mae hyn yn cynnwys lwfans ceisio gwaith, gweithwyr yn chwilio am gymorth, busnesau lleol neu unigolion yn ystyried cychwyn eu busnes eu hunain.

"Er bod ein swyddfeydd ar gau ar hyn o bryd, mae ein staff yn gweithio ac wrth law i ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch." 

Maent yn parhau i allu cynnig ystod eang o gefnogaeth hyfforddi i weddu eich anghenion chi! Gallwn gefnogi unigolion sy’n awyddus i ddatblygu sgiliau newydd a pherthnasol ar gyfer:

  • Cyflogaeth
  • Lleoliadau Gwaith
  • Gwaith Gwirfoddol

Oherwydd canllawiau cadw pellter cymdeithasol, mae’r tîm wedi addasu, ac ar hyn o bryd, dim ond drwy ddysgu o bell rydym yn darparu hyfforddiant. 

I gael rhagor o wybodaeth am Cymunedau am Waith, neu i gofrestru ar rai o’n rhaglenni llwybr, cysylltwch â Nia Parry neu Janiene Davies ar nia.parry@flintshire.gov.uk neu Janiene.davies@flintshire.gov.uk

Ymgyrch genedlaethol yw Gofalwn Cymru sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am ofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant, a denu rhagor o bobl sydd â’r sgiliau a gwerthoedd cywir i weithio mewn swyddi gofalu gyda phlant ac oedolion. I ddysgu mwy, neu i chwilio am swyddi ar draws y sector gofal cymdeithasol, ewch i gofalwn.cymru.

Social Care images3small.jpg   Social Care images8.jpg