Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gofalu am Ofalwyr Sir y Fflint – 16 i 22 Tachwedd 2020

Published: 16/11/2020

mirco care.png

Mewn ymateb i brinder cenedlaethol o ofalwyr ac i fodloni’r galw cynyddol am ofal, mae Cyngor Sir y Fflint, gyda chymorth ariannol gan Gronfa Her Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru a Gwobr Cymorth Arweinydd drwy Cadwyn Clwyd, wedi cyflwyno dull newydd arloesol o gynyddu nifer y gofalwyr sy’n gallu darparu gofal i’w breswylwyr. Enw’r dull newydd hwn yw Meicro-Ofal. 

Mae Meicro-Ofal yn disgrifio busnesau bach iawn sy’n amrywio o unig fasnachwyr i fusnesau sy’n cyflogi pump o bobl, sy’n cynnig gwasanaethau gofal, cefnogi neu les hyblyg wedi’u personoli (fel siopa, glanhau neu gwmnïaeth) i bobl ddiamddiffyn, wedi’u teilwra i anghenion yr unigolyn. Gall y meicro-ofalwyr hyn roi cefnogaeth neu ofal i rywun sydd wedi cael asesiad ffurfiol o fod angen gofal gan yr awdurdod lleol a gallant hefyd gynnig amrediad o ddatrysiadau gwasanaeth i bobl sydd eisiau prynu gwasanaethau gofal neu les yn breifat. 

Mae’r prosiect meicro-ofal yn edrych ar annog pobl i fod yn ofalwyr-meicro hunangyflogedig. Gall pobl ddod o amrywiaeth o gefndiroedd. Gallai hyn fod yn bobl sydd â: 

  • Diddordeb mewn darparu gwasanaethau gofal i bobl hyn ond nad oes ganddynt brofiad o bosibl
  • Gweithio yn y sector gofal ar hyn o bryd ond sydd â diddordeb mewn bod yn fos arnynt eu hunain
  • Cefnogi pobl yn weithredol yn eu cymunedau lleol
  • Am wneud rhywbeth sy’n cefnogi pobl eraill a gwneud gwahaniaeth. 

Mae ein dau Swyddog Datblygu Meicro-ofal, Robert Loudon a Marianne Lewis wedi bod yn gweithio gydag unigolion i’w: 

  • Cefnogi i ddatblygu eu busnes neu eu syniad
  • Darparu gwybodaeth am hyfforddiant, cyllid a chefnogaeth ac adnoddau eraill sydd ar gael
  • Cefnogi unigolion i ddatblygu a darparu gwasanaeth o ansawdd yn unol â deddfwriaeth a rheoliadau cyfredol Llywodraeth Cymru
  • Darparu cefnogaeth iddynt gan meicro-ofalwyr eraill. Rydym wedi sefydlu cyfarfod rhwydwaith ar-lein ble gall meicro-ofalwyr rannu syniadau a chefnogi ei gilydd. 

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Swyddogion Datblygu wedi bod yn brysur yn hybu’r prosiect ac yn cefnogi rhai â diddordeb i ddechrau eu busnesau eu hunain ac o ganlyniad, mae ganddynt 9 menter meicro-ofal newydd yn cynnig gwasanaethau ar draws Sir y Fflint, gyda 7 o bobl eraill yn gweithio drwy ein Rhaglen Meicro-Ofal ar hyn o bryd. Mae’r mentrau meicro-ofal canlynol yn masnachu ar hyn o bryd:

  • Just ask Toby
  • Cartrefle Care
  • Katherine’s Home Care and Support
  • TLC (Trelawnyd Living Care and Enabling)
  • Gofal Cartref Opal
  • Your Choice @Home service
  • Sally’s Helping Hands
  • Myther Me
  • Your Trusted Friends

Mae ein darparwyr meicro-ofal i gyd yn dod o amrywiol gefndiroedd ac yn cynnig nifer o sgiliau gwahanol i’r rôl ac mae’r cyfan yn helpu pobl i naill ai aros yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hwy neu gefnogi eu lles parhaus. 

Os hoffech wybod mwy am sut i fod yn ddarparwr meicro-ofal neu os byddwch eisiau manylion cyswllt unrhyw un o’n darparwyr meicro, gallwch ymweld â www.careatflintshire.com neu gysylltu â naill ai Marianne neu Rob ar 01352 702126 neu 01352 701461 am sgwrs anffurfiol.