Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Wythnos Gofalwn Cymru – Recriwtio y ‘Bobl Gywir’ i Ofal Cymdeithasol

Published: 17/11/2020

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi dechrau ar daith gyffrous i herio a newid ei brosesau recriwtio traddodiadol er mwyn recriwtio pobl sydd â’r gwerthoedd cywir mewn i swyddi gofal cymdeithasol. 

Mae’r ymgyrch Gofalwn yn nodi bod ‘Cymru angen tua 20,000 yn fwy o bobl i weithio yn y maes gofal erbyn 2030’, ac er mwyn diwallu’r angen hwn, mae angen i ni wneud mwy i arddangos a hyrwyddo gwaith gofal fel gyrfa werthfawr, llawn boddhad. 

Mae tîm bychan o staff Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cael eu hyfforddi gan Helen Sanders Associates a Thimau Llesiant mewn Recriwtio sy’n Seiliedig ar Werthoedd, ac ers hynny mae’r tîm wedi bod yn gweithio i ddatblygu eu dulliau newydd eu hunain i recriwtio pobl mewn i ofal cymdeithasol. 

Mae ein gwerthoedd a’n credoau yn gyrru’r ffordd rydym yn ymddwyn, ac mae pobl yn tueddu o ffynnu mewn llefydd lle gallant arddangos eu gwerthoedd. Roedd angen i’r Gwasanaethau Cymdeithasol ddeall ei werthoedd ei hun, cyn chwilio am y gwerthoedd hynny mewn pobl eraill, ac maent bellach yn dymuno recriwtio pobl sy’n rhannu gwerthoedd y gwasanaeth. 

Cyn Covid-19, dechreuodd Cyngor Sir y Fflint cyfres o ddiwrnodau recriwtio gyda ffocws ar annog cyfranogwyr i arddangos y gwerthoedd maent yn eu dilyn yn eu bywyd. Roedd y sesiynau yma’n cynnwys ymarferion tîm, gwrando a chyfathrebu a senarios ‘beth os’. Am ran o’r diwrnod, cafodd yr ymgeiswyr de prynhawn gyda phobl y gallent fod yn darparu gofal neu gefnogaeth ar eu cyfer. Roedd y gweithdai yma’n cael eu harsylwi gan staff ac unigolion sy’n derbyn gwasanaethau, oedd yn cadw llygad am y ffyrdd roedd yr ymgeiswyr yn rhyngweithio gydag unigolion ac yn arddangos eu gwerthoedd personol.  

Hyd yma, rydym wedi cynnal dros 20 gweithdy ar gyfer ein gweithlu gofal a chefnogaeth uniongyrchol, gan benodi dros 60 o bobl ar draws gwasanaethau, mae rhai ohonynt yn ymuno o swyddi gofalu blaenorol, gan weithio mewn meysydd eraill, a does gan eraill ddim profiad o gwbl, ond maent eisiau gwneud gwahaniaeth. Rydym wedi cynnal gweithdai recriwtio o feintiau gwahanol, yn amrywio o 6 ymgeisydd i 26. 

Mae’r adborth gan ymgeiswyr wedi bod yn gadarnhaol, gyda rhai yn dweud wrthym mai ‘dyma’r cyfweliad gorau dwi erioed wedi ei gael’ a’u bod yn ‘teimlo nad oeddwn i’n cael cyfweliad’. Mae ymgeiswyr wedi mwynhau cyfarfod y tenantiaid, gan ddweud eu bod wedi gadael wedi dysgu mwy am y swydd na phetaent wedi mynychu cyfweliad traddodiadol. 

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Christine Jones: 

"Mae gennym ni dîm anhygoel yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint sydd yn dosturiol, yn canolbwyntio ar yr unigolyn, yn gallu addasu ac yn ddyfeisgar, ac fe hoffem adeiladu ar hyn. Os ydi hyn yn apelio i chi, cysylltwch â ni gan e-bostio SocialServicesRecruitment@flintshire.gov.uk neu ymgeisiwch ar-lein. Fe fyddem ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi." 

Mae ein swyddi gwag presennol i’w gweld yma: https://www.flintshire.gov.uk/en/Resident/Jobs-and-careers/Current-Job-Vacancies/Home.aspx

Mae tîm yn y Cyngor bellach wedi’u hyfforddi i rannu eu gwybodaeth a’u profiadau gydag eraill ac maent wedi cyflwyno rhaglen Hyfforddiant Recriwtio sy’n Seiliedig ar Werthoedd i ddarparwyr sector gofal annibynnol.

 

Social Care images4.jpg   Social Care images6.jpg