Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn sicrhau diogelwch tai cymdeithasol

Published: 16/11/2020

Unwaith eto, mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymuno â'r gwneuthurwr drysau, Permadoor, i osod drysau diogelwch tân ar 200 o fflatiau ledled y sir.

Yn ogystal, y mis hwn bydd y Cyngor yn gweithredu rhaglen uwchraddio larwm mwg a charbon monocsid mewn 94 eiddo yng Nghei Connah.

Meddai’r Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint:

“Diogelu cwsmeriaid yw ein prif flaenoriaeth. Mae angen i ni sicrhau bod gan bob un o'n hadeiladau ddrysau tân sy'n addas at y diben a gyda larymau ar gyfer mwg a charbon monocsid. Mae angen i’n preswylwyr ymddiried ynddyn nhw a chael arweiniad clir ynghylch cynlluniau a mesurau diogelwch tân.”

Y llynedd, gosododd y cwmni 250 o ddrysau ar eiddo’r cyngor a'r mis hwn, bydd gwaith yn cychwyn ar y cam nesaf i osod drysau mewn blociau sydd wedi’u lleoli yng Nghei Connah, Bwcle a Threffynnon.

Mae Permadoor yn cydnabod bod awdurdodau lleol eisiau gwneud penderfyniadau gwariant dibynadwy i fodloni eu gofynion ansawdd a chyllidebol.  Felly ni fu sicrhau'r gwerth gorau drwy reoli costau oes gyfan stoc tai erioed yn bwysicach.

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Permadoor, Steve Cox: 

“Rydyn ni wrth ein bodd bod Cyngor Sir y Fflint wedi dod yn ôl at Permadoor unwaith eto i gyflenwi ein drysau tân llwyddiannus ar gyfer y prosiect hwn. Mae Sir y Fflint, unwaith eto, yn cymryd pob cam sy'n angenrheidiol i sicrhau bod tenantiaid yn ddiogel."

Y contractwr a benodwyd i gyflawni'r gwaith uwchraddio larwm mwg a charbon monocsid yw'r cwmni lleol, JDE Electrical Contractors Ltd, un o'r prif gontractwyr yng Ngogledd Cymru.  

Meddai Kris Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr JDE Electrical: 

“Mae’n dda gweld Cyngor Sir y Fflint yn gweithio gyda chwmnïau lleol fel ni ac rydym yn falch o fod yn gosod y larymau hyn yng nghyfadeiladau tai’r Cyngor i sicrhau diogelwch y preswylwyr.”

Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton, aelod lleol ar gyfer Cei Connah a hefyd yn cynrychioli’r Cynghorydd Andy Dunbobbin sydd hefyd yn cynrychioli’r ward:

“Fel aelod o Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, rwy’n falch bod y gwaith hwn yn digwydd gan y bydd yn rhoi sicrwydd i’n tenantiaid.  Roedd yn dda bod ein Haelod Cabinet dros Dai yn gallu mynychu a gweld y gwaith gwych yn cael ei wneud.”

 

Fire Door (1 of 1)small.jpg

Cyng Shotton, Steve Cox - Permadoor,
Mike Dymock (Cyngor Sir y Fflint), Cyng
Dave Hughes

 

Fire Alarm (1 of 3)small.jpg

Kris Davies - JDE, Cyng Dunbobbin, Cyng Hughes