Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Bagillt heddiw a Bagillt y gorffennol

Published: 17/11/2020

20201102_113823.jpgMae tîm Cefn Gwlad Sir y Fflint yn paratoi i fwrw iddi gyda gwaith prosiect treftadaeth Bettisfield Bagillt sydd eisoes wedi dechrau. 

Bydd Bagillt Heddiw a Bagillt y Gorffennol yn canolbwyntio ar dreftadaeth amrywiol y blaen draeth sy’n deillio i stori ddiwydiannol y gorffennol a’r gymuned a adeiladwyd o gwmpas y diwydiant hwnnw a bellach y bywyd gwyllt sydd wedi ei hawlio yn ôl. Mae hanes llawn cyfoeth ac amrywiaeth yn perthyn i’r blaen draeth yn seiliedig ar ei ddaeareg, hanes, cysylltiadau trafnidiaeth hanesyddol a threftadaeth naturiol yr arfordir. 

Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

"Bydd y gwaith hwn o fudd ac yn dathlu ein treftadaeth leol a chenedlaethol ar y safle ac yn y gymuned.

"Mae’r gwaith yn cynnwys rheoli rhywogaethau ymledol, gwaith coed er budd y pwll dwr, rheoli eithin, gwelliannau i gynefin y llyffant cefnfelyn a phrosiect pori i wella’r dolydd.

"Rydym hefyd yn edrych ar osod bwrdd dehongli ar y safle, llwybr digidol gwych a llunio taflen yn seiliedig ar y safle. Byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau yn lleol ac yn gweithio gyda phlant lleol i greu a chyflwyno perfformiad ar hanes Bagillt. Bydd angen addasu ein cynlluniau ryw fymryn i gydymffurfio ag arweiniad Covid-19."

Yn olaf byddwn yn edrych i osod nodweddion newydd ar y safle i ddathlu treftadaeth gyfoethog Gymreig sydd gan Fagillt a’i breswylwyr.

I wybod y diweddaraf ar y prosiect a’r cyfleoedd sydd ar gael dilynwch dudalennau cyfryngau cymdeithasol cefn gwlad ac arfordir Sir y Fflint.

Ariennir y prosiect hwn ar y cyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, Llywodraeth Cymru trwy ei Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi a Chyngor Sir y Fflint.

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn rhannu cyfran o gyllid y Loteri Genedlaethol ac yn cefnogi amrywiaeth eang o brosiectau treftadaeth ledled y Deyrnas Unedig er budd treftadaeth a’r bobl.

Mae’r "Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi" yn rhaglen cyllido Llywodraeth Cymru wedi’i reoli gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) sydd yn cefnogi prosiectau cymunedol ac amgylcheddol lleol mewn ardaloedd wedi’i heffeithio gan waredu gwastraff i safleoedd tirlenwi.