Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Datganiad ar y Cyd gan Gyngor Sir y Fflint ac Aura: Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy

Published: 16/11/2020

Mae Hamdden a Llyfrgelloedd Aura ynghyd â'r Cyngor wedi comisiynu astudiaeth arfarnu opsiynau ar gyfer ailddatblygu safle Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn y dyfodol. Mae'r dyhead am gynnig uwchgynllun yn mynd yn ôl cyn ail-leoli'r safle presennol fel ysbyty enfys ac yn cyflwyno cyfle datblygu cyffrous i leoliad sy'n 50 oed ac yn cyrraedd diwedd ei oes naturiol.

Mae'r prosiect yn dangos ein hymrwymiad ar y cyd i hamdden a chwaraeon, ynghyd ag iechyd a lles, a'r nod hirdymor yw cael lleoliad cymunedol modern ac amlbwrpas a fyddai'n parhau i fod yn destun balchder lleol.

Mae'r astudiaeth arfarnu opsiynau yn cynrychioli'r cam cyntaf tuag at ddarparu datrysiad hirdymor ar gyfer safle mawr o bwysigrwydd strategol i Aura a'r Cyngor. Fel y nodwyd yn flaenorol, mae Aura yn edrych ymlaen at groesawu ei gwsmeriaid yn ôl i Ganolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn 2021 unwaith nad oes angen capasiti ychwanegol i gefnogi darpariaeth gwasanaethau gofal iechyd yng Ngogledd Cymru.