Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith ail-wynebu ffordd i’w gynnal

Published: 18/11/2020

roadworks_SMALL.jpg

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi bod cyllid wedi'i sicrhau i ail-wynebu'r ffordd tua'r gorllewin at gylchfan Queensferry ar y B5129 Chester Road East ym Mhentre. Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Llun 23 Tachwedd.

 

Er mwyn hwyluso'r gwaith, bydd system unffordd dros dro yn gwahardd cerbydau rhag teithio ar y B5129 o signalau Mackro hyd at gylchfan Queensferry. Bydd mynediad o'r gylchfan tuag at Mancot yn cael ei gynnal trwy gydol y gwaith.

Bydd y cyfyngiad dros dro ar waith rhwng 9am a 3pm a disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau mewn pum niwrnod (yn dibynnu ar y tywydd).

Bydd modd cael mynediad at eiddo a busnesau unigol o hyd, er y gallai fod peth oedi.

Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

"Rydym yn falch ein bod wedi sicrhau'r cyllid hwn er mwyn i'r gwaith ail-wynebu pwysig ac angenrheidiol hwn gael ei wneud.

"Mae’r Cyngor, ynghyd â’n contractwr, Breedon Southern Limited, yn ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw oedi ac amhariad y bydd y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn yn ei achosi."