Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn dangos eu hymrwymiad i ddod a thrais dynion yn erbyn merched i ben trwy dderbyn achrediad Rhuban Gwyn

Published: 23/11/2020

Mae Cyngor Sir y Fflint yn dangos eu hymrwymiad i ddod a trais dynion yn erbyn merched i ben trwy dderbyn achrediad Rhuban Gwyn.

Mae’r Rhuban Gwyn yn ymgyrch fyd-eang sy’n annog pobl, yn arbennig dynion a bechgyn, i weithredu yn unigol a gyda’i gilydd a newid ymddygiad a diwylliant sy’n arwain at gamdriniaeth a thrais. Wrth wisgo rhuban gwyn rydych yn gwneud addewid i beidio cyflawni, esgusodi neu aros yn ddistaw am drais dynion yn erbyn merched.

Mae’r cyngor wedi ymrwymo i gynllun gweithredu dwy flynedd i fynd i’r afael â thrais dynion yn erbyn merched, gan gynnwys llawer o’r hyn mae’r cyngor eisoes yn ei wneud yn ogystal â chefnogi mentrau newydd, megis datblygu Polisi Trais Domestig a Rhywiol ar gyfer gweithwyr ac aelodau’r cyngor, penodi llysgenhadon gwirfoddol i ledaenu’r neges i fwy o ddynion, a gweithio tuag at fabwysiadu polisi dim goddefgarwch tuag at drais yn erbyn merched.

Mae rhan o’r gwaith sydd ei angen i gyflawni statws achrededig yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch, ymgysylltu â dynion a bechgyn i gynorthwyo i ddileu trais dynion tuag at ferched, a gweithio gyda chlybiau chwaraeon a lleoliadau cerddoriaeth i ddatblygu polisïau yn unol â neges yr ymgyrch.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Gwarchod y Cyhoedd a Chynllunio: 

"Fel cyngor rydym yn cefnogi’r achos yn gryf ac mae gwisgo rhuban gwyn yn ffordd wych i ddangos cefnogaeth. 

"Eleni, mae Diwrnod y Rhuban Gwyn ddydd Mercher, 25 Tachwedd. Gyda mwy ohonom yn treulio mwy o amser gartref, mae’n bwysicach nac erioed i ni sefyll yn erbyn trais yn erbyn merched. Rhaid i ni gydweithio i atal trais a sicrhau bod ein cymunedau yn ddiogel i bawb."

Dywedodd Anthea Sully, Prif Weithredwr Rhuban Gwyn y DU:

"Mae ein galwad i ddod a thrais i ben trwy godi ymwybyddiaeth, addysgu ac ymgyrchu am newid yn cael ei gryfhau trwy gydweithio gyda’n sefydliadau sydd ag achrediad y Rhuban Gwyn. Mae ein partneriaid yn gallu ymgysylltu â miloedd o bobl i newid diwylliannau sy’n arwain at drais yn erbyn merched. Rydym yn falch o groesawu Cyngor Sir y Fflint fel un o’n sefydliadau ag achrediad y Rhuban Gwyn. Gyda’n gilydd gallwn rwystro trais rhag digwydd yn y lle cyntaf."