Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cronfa Adfer Gymunedol Parc Adfer yn cael ei lawnsio

Published: 20/11/2020

Heddiw, mae’n bleser gan Bartneriaeth y Prosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru (PTGGGC) a Wheelabrator Technologies Inc (WTI) i gyhoeddi bod Gronfa Adfer Cymunedol Parc Adfer ar agor i geisiadau. Fe gyhoeddwyd y gronfa yn gynharach yr yn yr haf ac ei bwrpas yw i helpu gymunedau yn ardal Glannau Dyfrdwy o effaith y sefyllfa argyfwng ddiweddar.

Fe ffurfwyd y PTGGGC gan bum Cyngor o Ogledd Cymru – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn – i rheoli gwastraff gweddilliol a gynhyrchwyd gan boblogaeth y pum awdurdod lleol. Gwastraff gweddilliol yw’r gwastraff sydd yn weddill ar ôl ailgychu a chompostio.

Mae cyfleuster Ynni o Wastraff Wheelabrator Parc Adfer wedi’i leoli ym Mharc Diwydiannol Glannau’r Dyfrdwy a ddechreupdd trin gwastraff yn 2019, yn dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi a chreu trydan adnewyddadwy i tua 30,000 o gartrefi.

Fel rhan o’i ymrwymiad i’r gymuned lleol, mae’r Bartneriaeth a WTI wedi rhoi addewid i ariannu Gronfa Budd Cymunedol – gwerth £230,000 y flwyddyn – i gymunedau yn ardal Glannau Dyfrdwy. Mae’r Bartneriaeth eisoes wedi ymgynhgori gyda rhanddeiliaid allweddol cymunedol yng Nglannau Dyfrdwy ar sut fydd y Gronfa Budd Cymunedol yn cael ei rhedeg, bydd yn cael ei agor i geisiadau yn 2021. Yn y cyfamser, mae’r Gronfa Adfer Cymunedol Parc Adfer tymor byr yno i gynorthwyo mudiadau lleol i gynnal y Cymuned fel yr ydym yn dod allan o’r sefyllfa argyfwng hon.

Y math o fudiadau fydd yn gymwys am gymorth yw mudiadau cymunedol a gwirfoddol, mentrau cymunedol a chymdeithasol, ac elusennau lleol (nid cenedlaethol) wedi’w leoli ofewn y ardal ddiffinedig Bartneriaeth Glannau Dyfrdwy.

Y bwriad i’r gronfa yw i gefnogi mudiadau a chymunedau gyda effeithiau’r pandemig Covid-19. Bu’n gwneud hyn drwy ariannu amrediad o weithgareddau, megis rhoi cymorth i ail agor adeiladau cymunedol yn ddiogel, ddigolledu am golled incwm, ariannu gweithgareddau cymunedol newydd i rhoi cymorth i grwpiau agored i niwed ac i gynorthwyo gyda chostau datblygu mudiadau cymunedol newydd.

Mae’r gronfa rwan yn agored i geisiadau, ac os oes ganddoch ddiddordeb yn y gronfa cysylltwch â’r tîm ar 01352 704783 neu ebostio ParcAdferCommunityFund@flintshire.gov.uk.