Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgolion yn cyflwyno mesurau diogelwch

Published: 23/11/2020

Mae ysgolion Sir y Fflint wedi bod yn cyflwyno dulliau newydd o sicrhau diogelwch disgyblion a theuluoedd wrth iddyn nhw fynd a nôl eu plant o’r ysgol. 

Mae trefniadau Ysgol y Llan yn Chwitffordd yn enghraifft dda o hyn. Maen nhw wedi gofyn i rieni a gofalwr aros yn eu cerbydau wrth fynd a nôl eu plant o’r ysgol. Fel hyn mae modd cadw pellter cymdeithasol a sicrhau nad ydi aelwydydd gwahanol yn cymysgu. Mae gan y disgyblion amseroedd cyrraedd a gadael gwahanol a, diolch i gefnogaeth rhieni a staff, mae’r trefniadau wedi bod yn llwyddiant ysgubol. 

Meddai’r Pennaeth, Bryan Griffiths: 

"Mae’n rhaid i mi gyfaddef, doeddwn i ddim yn disgwyl i bethau weithio cystal ym mis Medi wrth i bawb ddychwelyd i’r ysgol. Rydym ni wedi derbyn canmoliaeth fawr gan rieni a gofalwyr ac mae hyd yn oed ein cymdogion wedi sylwi pa mor ddiogel ydi’r ffyrdd bellach, heb y problemau parcio a geir mewn sawl ysgol arall. 

"Er ein bod ni’n teimlo bod y system hon wedi lleihau problemau diogelwch ar y ffyrdd, rydym ni’n gofyn i ddefnyddwyr eraill fod yn amyneddgar yn ystod cyfnodau penodol o’r dydd ac rydym ni’n ddiolchgar iawn i bawb am eu cydweithrediad i wneud ein cymuned yn fwy diogel." 

Gellir gweld y sylwadau yn newyddlen yr ysgol yn: http://www.ysgolyllan.co.uk/uploads/6/0/9/8/60987703/wednesday_30th_september.pdf 

Parking 1.jpg   Parking 2.jpg