Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Twyll Profi, Monitro ac Olrhain

Published: 23/11/2020

SGAM.jpgHoffai Safonau Masnach Sir y Fflint rybuddio trigolion ynglyn â math o dwyll sy’n ymwneud â Covid 19.

Mae pobl yn curo ar ddrysau gan ddweud eu bod yn weithiwyr achosion Coronafeirws. Does dim gweithwyr achosion Coronafeirws yn mynd o ddrws i ddrws.

Os yw’r gwasanaeth Profi Monitro ac Olrhain angen cysylltu â chi, byddant yn gwneud hyn dros y ffôn, ac ni fyddant yn gofyn i chi am unrhyw wybodaeth ariannol na thaliad. Os oes rhywun sy’n dweud eu bod yn weithiwr achos coronafeirws yn galw heibio eich drws, caewch y drws arnynt, a chysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101.