Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Wythnos Ymwybyddiaeth Llid yr Ymennydd - peryglon i fyfyrwyr

Published: 18/09/2015

Hoffai Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint i atgoffa rhieni a myfyrwyr am beryglon Llid yr Ymennydd. Maer neges yn cyd-fynd âr Wythnos Ymwybyddiaeth Llid yr Ymennydd ar draws y DU (14-20 Medi) a hefyd mae cynnydd yn yr achosion o Lid yr Ymennydd wrth i ni symud i mewn i’r hydref ar gaeaf. Mae Llid yr Ymennydd yn haint gymharol brin syn achosi pilennau syn amddiffyn yr ymennydd a llinyn y cefn i chwyddo. Gall Llid yr Ymennydd bacteriol fod yn angheuol ac yn heintus ymhlith pobl sydd mewn cysylltiad agos. Gall ladd o fewn 48 awr ac mae triniaeth gynnar yn hanfodol. Gall unrhyw un gael llid yr ymennydd, fodd bynnag, plant yn eu harddegau yn ogystal â babanod a phlant ifanc o dan bump oed sydd fwyaf mewn perygl. Mae un o bob pedwar unigolion 15 a 19 oed yn cario bacteria meningococaidd yng nghefn eu gyddfau, o’i gymharu ag un allan o bob 10 or boblogaeth gyffredinol. Ni fydd y rhan fwyaf o bobl sy’n gludwyr or bacteria yn mynd yn sâl, ond yn gallu ei drosglwyddo drwy besychu, tisian a chusanu, ac mae mwy o risg lle mae pobl yn agos at ei gilydd fel mewn ystafelloedd dosbarth neu neuaddau preswyl. Gall symptomau llid yr ymennydd gynnwys twymyn, dwylo a thraed oer, chwydu, poen yn y cyhyrau, syrthni, dryswch, gwddf anystwyth, cur pen, anhawster gyda goleuadau llachar, poen yn y stumog, dolur rhydd a brech nad ywn pylu drwy roi pwysau arno. Gall pob un neu ddim ond rhai or symptomau hyn fod yn bresennol. Gall y frech ymddangos yn hwyr neu ddim o gwbl. Maer frech yn fwy anodd ei weld ar groen tywyll; edrychwch ar rannau goleuach o’r croen ac o dan yr amrannau. Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio ar y cyd gyda GIG i godi ymwybyddiaeth o frechlyn newydd am ddim ar gael i unigolion 17 a 18 mlwydd oed a myfyrwyr coleg a phrifysgol hyd at 25 oed. Mae Meddygon Teulu yn cysylltu ag unigolion 17-18 oed i ddod ir feddygfa ar gyfer y brechlyn ond bydd angen i fyfyrwyr 19-25 oed i gysylltu âu meddygfa i ofyn am y brechlyn. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod y Cabinet dros Ddiogelur Cyhoedd, Gwastraff ac Ailgylchu: “Maen bwysig ein bod i gyd yn gwybod symptomau Llid yr Ymennydd. Maer clefyd ofnadwy hwn yn achosi tua 300 o farwolaethau bob blwyddyn. Mae brechlynnau ar gael yn erbyn rhai mathau o Lid yr Ymennydd bacteriol i blant ifanc ac oedolion ifanc ac maen bwysig bod y brechlynnau hyn yn gyfredol. Yn ogystal, os oes gennych bobl ifanc sydd yn gadael cartref am y coleg neur brifysgol ym mis Medi, gwnewch yn siwr eu bod yn gwybod beth yw’r symptomau ac i gael cymorth meddygol os ydynt yn teimlon anhwylus neu os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch y clefyd hwn. I gael rhagor o wybodaeth:- www.meningitusuk.org www.meningitis.org www.meningitis-trust.org www.meningitisnow.org