Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Landlord yn Sir y Fflint wedi’i erlyn yn llwyddiannus

Published: 25/11/2020

Successful prosecution.jpegMae Tîm Diogelu Cymunedau a Busnesau Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo i erlyn landlord preifat yn Sir y Fflint am achos o droi allan yn anghyfreithlon ac aflonyddu’r meddiannydd preswyl.

Plediodd Paul Andrew Owen a Tracie Anne Owen, Cyfarwyddwyr TASC Holdings Limited, yn euog i droseddau o dan y Ddeddf Diogelu rhag Dadfeddiant 1997, rhai a ddigwyddodd mewn eiddo ar rent ar Deras Dewi Sant yn Saltney ym Medi 2019. Cawsant gosb o £1257 yr un a chawsant orchymyn i dalu iawndal o £1000 i’r dioddefwr a gollodd ei gartref a’i holl eiddo personol. 

Dywedodd y Cynghorydd Christopher Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd:

“Mae’r erlyniad hwn yn anfon neges glir y bydd Cyngor Sir y Fflint yn diogelu preswylwyr yn erbyn achosion o droi allan anghyfreithlon gan landlordiaid. Mae’n adlewyrchu ymrwymiad Cyngor Sir y Fflint i sicrhau bod cartrefi yn y sector rhentu preifat yn cael eu rheoli’n briodol.”