Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arolwg i glywed safbwyntiau tenantiaid preifat yn ystod y Coronafeirws

Published: 30/11/2020

Housing consultation.jpgMae cynghorau yng Ngogledd Cymru eisiau canfod sut y gallai pandemig y Coronafeirws fod yn effeithio ar bobl sy’n rhentu eu tai gan landlordiaid preifat drwy ofyn i denantiaid gwblhau holiadur.

Mae bron i 1 o bob 5 aelwyd yn byw mewn cartref a gaiff ei rentu’n breifat – mae’r rhain yn dai nad ydynt yn cael eu rhentu gan gymdeithas dai (neu dy cyngor). 

Yn yr arolwg cyntaf o’i fath sy’n benodol ar gyfer Gogledd Cymru, mae Cynghorau yn ymgynghori â’u tenantiaid preifat i weld sut maent yn ymdopi yn ystod y pandemig. 

Mae Cynghorau a’u partneriaid yn cynnig ystod eang o wasanaethau i denantiaid preifat fel:

  • cyngor a chymorth i denantiaid preifat i atal colli tenantiaeth;
  • cymorth gyda chyllidebu a sicrhau’r incwm mwyaf posibl;
  • cyfeirio ar gyfer cefnogaeth yn ymwneud â cham-drin domestig;
  • hawliau tenantiaeth ac, os nad yw’n bosibl i arbed tenantiaeth, cymorth i ganfod llety arall. 

I helpu cynghorau lleol i gynllunio ar gyfer darparu gwasanaethau ar gyfer 2021 caiff tenantiaid preifat eu gwahodd i gwblhau holiadur byr a rhannu eu profiadau.

Meddai’r Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint:

“Bydd yr ymgynghoriad hwn gyda thrigolion Sir y Fflint sy’n rhentu’n breifat, yn rhoi tystiolaeth uniongyrchol i ni o’r heriau maent wedi eu hwynebu yn ystod y pandemig ac yn ein galluogi ni i lunio ein gwasanaethau yn well i ddiwallu eu hanghenion.”

Mae’r holiadur ar gael ar wefan TPAS Cymru (Gwasanaeth Cynghori Cyfranogiad Tenantiaid). Mae TPAS yn gweithio gyda landlordiaid a thenantiaid yng Nghymru i helpu i lunio gwasanaethau tai. Bydd yr holl ymatebion yn anhysbys.

I ateb yr holiadur ewch i  http://doo.vote/prs-cymraeg.

Mae TPAS hefyd yn trefnu’r ‘Pwls Tenantiaid’ sy’n cynnal arolygon drwy gydol y flwyddyn i gael safbwyntiau pobl mewn ystod eang o lety a gaiff ei rentu. Bydd pawb sy’n ateb yr holiadur hwn yn cael gwahoddiad i ymuno â’r Pwls Tenantiaid gyda’r cyfle i ennill talebau siopa gwerth £150. Byddant yn cael y cyfle i roi adborth a rhannu eu profiadau drwy arolygon rheolaidd. Bydd Awdurdodau Lleol, Llywodraeth Cymru a Sefydliadau Landlordiaid yn clywed eu safbwyntiau. I gael rhagor o wybodaeth ynglyn â TPAS Cymru neu i ymuno â’r Pwls Tenantiaid ewch i https://www.tpas.cymru/.