Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Diwrnod Hawliau

Published: 07/12/2020

1920-14121 Diwrnod Hawliau Web Banner-small.jpg

Am yr ail flwyddyn yn olynol mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gefnogi Diwrnod Hawliau, sef diwrnod cenedlaethol hawliau’r Gymraeg, ar 7 Rhagfyr. 

Mae gan siaradwyr Cymraeg yng Nghymru yr hawl i ddelio â sefydliadau cyhoeddus drwy gyfrwng y Gymraeg ac i dderbyn gwasanaethau Cymraeg ganddyn nhw.

Mae’r hawliau wedi’u creu gan Safonau’r Iaith Gymraeg - rhestr o bethau y mae’n rhaid i sefydliad ei wneud yn Gymraeg, er enghraifft:

  • Ateb galwadau ffôn
  • Ysgrifennu llythyrau
  • Cyhoeddi dogfennau
  • Cyhoeddi gwefannau a negeseuon cyfryngau cymdeithasol
  • Cynnal cyfarfodydd 
  • Darparu gwasanaeth derbynfa

Mae’r Cyngor yn un o gant a mwy o sefydliadau sydd ar hyn o bryd yn gweithredu'r safonau. 

Meddai’r Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol Cyngor Sir y Fflint:

“Mae’r Diwrnod Hawliau yn ddiwrnod i hyrwyddo’r faith bod gennych chi, ble bynnag rydych chi’n byw yng Nghymru, yr hawl i ddefnyddio’r iaith. Rydym ni’n falch iawn o fod yn un o’r sefydliadau yng Nghymru sy’n cymryd rhan yn Niwrnod Hawliau’r Gymraeg. Mae’n gyfle i hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg ac i geisio cynyddu nifer y bobl sydd yn eu defnyddio.

Meddai Colin Everett, y Prif Weithredwr:

“Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi pobl o bob oed i wella eu sgiliau Cymraeg ac i roi’r hyder iddyn nhw ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd - yn y gwaith, gartref, yn yr ysgol ac yn y gymuned. Mae hyn yn anfon neges glir bod y Gymraeg yn cael ei gwerthfawrogi ac yn ased o fewn cyflogaeth.”

Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts:

“Roeddem yn gweld o’n harolygon mai prin oedd yr enghreifftiau o sefydliadau cyhoeddus oedd yn cynnal ymgyrchoedd i hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg.  

“Felly cafodd y tîm cyfathrebu syniad o gynnig cymorth ymarferol iddyn nhw, gan greu pecyn o adnoddau marchnata a dynodi diwrnod cenedlaethol i hyrwyddo’r hawliau.

“Wrth reswm, rydym yn disgwyl i’r sefydliadau hyrwyddo eu gwasanaethau trwy gydol y flwyddyn, ond mae rhoi un diwrnod penodol i bawb ddathlu’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael yn ffordd effeithiol o godi ymwybyddiaeth. Mae hefyd yn reswm i neilltuo dyddiad bob blwyddyn i atgoffa staff yn fewnol o’r hawliau sy’n bodoli a chynnal gweithgareddau hyrwyddo.”