Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


NORTH EAST WALES HOMES LTD YN CYMRYD YR AWENAU GAN ANWYL O RAN DARPARIAETH RHANDAI 

Published: 14/12/2020

Cwmni tai fforddiadwy lleol sydd ym mherchnogaeth lwyr Cyngor Sir y Fflint yw NEW (North East Wales) Homes Ltd. Mae NEW Homes yn berchen ar, ac y rheoli, ystod o adeiladau newydd yn Sir y Fflint, ac maent bellach wedi cymryd yr awenau gan Anwyl Homes yn y datblygiad Croes Atti yn Oakenholt ac felly’n berchen ar y 12 o randai newydd o ansawdd uchel. 

Rhoddwyd y rhandai dwy ystafell wely i NEW Homes i’w darparu fel tai fforddiadwy, yn ôl gofynion y caniatâd cynllunio Byddant yn cael eu gosod fel unedau rhentu canolradd ac yn helpu i fodloni’r angen am dai fforddiadwy ychwanegol yn yr ardal leol. 

Er gwaethaf yr heriau diweddar yn sgil yr argyfwng Covid parhaus, mae NEW Homes ac Anwyl wedi gweithio gyda’i gilydd i sicrhau fod y rhandai’n cael eu darparu’n brydlon ac mae’n bleser rhoi gwybod fod y tenantiaid cyntaf bellach yn symud i’w cartrefi newydd. 

Dywedodd Paul Humphries, Cadeirydd NEW Homes Ltd: 

“Mae’n bleser gennym gymryd yr awenau o ran yr eiddo newydd hyn yng Nghroes Atti. Mae Anwyl wedi darparu nifer o randai gwych o ansawdd uchel ar gyfer NEW Homes yn y datblygiad hwn sy’n ein galluogi i ddarparu rhagor o dai fforddiadwy angenrheidiol yn yr ardal. Darparwyd y rhandai’n brydlon ac i safon uchel, er gwaethaf yr holl heriau y mae’r diwydiant adeiladu wedi’u hwynebu yn y cyfnod hwn. 

Ychwanegodd reolwr adeiladu Anwyl ar gyfer yr ardal hon, John Wilson: 

“Rydym yn hapus iawn â’r gwaith gorffenedig. Mae’r rhandai wedi’u cwblhau i safon ardderchog ac wedi’u datblygu mewn lleoliad cyfleus ac amlwg ar yr arfordir.  Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda NEW Homes i ddarparu cartrefi newydd angenrheidiol o ansawdd uchel yn yr ardal leol yn ystod cyfnod sydd wedi bod yn heriol iawn i bob un ohonom.”

Mae trosglwyddiad y rhandai yn cyd-daro â charreg filltir bwysig ar gyfer NEW Homes, sef cytundeb llwyddiannus y 150fed tenantiaeth – cwpl Cymraeg, Jamie Smith ac Ellis Evans sy’n symud i un o’r eiddo yng Nghroes Atti.  

Dywedodd Jamie: 

“Roeddem yn awyddus iawn i aros yn yr ardal leol ac mae NEW Homes wedi ein helpu i wneud hyn; mae’r rhandai yng Nghroes Atti yn hyfryd ac rydym yn edrych ymlaen yn arw at symud i mewn.”

Oakenholt (1 of 2).jpg