Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cais economi gylchol ar gyfer Bwcle

Published: 09/12/2020

Circular economy.jpgYm mis Tachwedd, rhoddodd Llywodraeth Cymru wahoddiad i Awdurdodau Lleol wneud cais i’r 'Gronfa Economi Gylchol Adferiad Gwyrdd 2020-21’ i ariannu prosiect fyddai’n hyrwyddo cydlynu cymunedol drwy fentrau atgyweirio ac ailddefnyddio a rhoi cyfle i gefnogi adfywio canol ein trefi. 

Mae Cyngor Sir y Fflint, mewn partneriaeth â Groundwork Gogledd Cymru a Refurbs Flinstshire, wedi cyflwyno cais i ddod â Chanolfan Atgyweirio ac Ailddefnyddio, ynghyd â chaffi, i ganol tref Bwcle. 

Nod hirdymor y prosiect yw hyrwyddo addysg a newid ymddygiad ynglyn â mentrau gwastraff ac ailgylchu, gan gynnig cyfleoedd gwaith a gwirfoddoli i bobl leol, wrth gefnogi cynllun adfywio strategol y dref, ac yn bwysicaf oll, creu lle i'r gymuned ddod at ei gilydd. 

Mae hen adeilad banc yr HSBC ar y stryd fawr wedi ei nodi fel y dewis gorau ar gyfer y lleoliad hwn. Byddai’r cynnig hwn yn golygu y byddai’r eiddo yn cael ei ddefnyddio unwaith eto ar gyfer y gymuned leol ac ehangach, gan annog mwy o ymwelwyr â chanol y dref.

Gydag amgylchedd caffi a lletygarwch yn ganolbwynt iddo, mae’r gwasanaethau cyntaf i gael eu darparu o dan y cynnig yn cynnwys:

  • Atgyweirio eitemau bach o’r cartref;
  • Arddangosiadau sut i wneud gwaith atgyweirio/technegau uwchgylchu y gellir eu defnyddio yn y cartref;
  • Gwybodaeth ynglyn â sut i gyfrannu eitemau diangen o’r cartref fel y gellir eu trwsio ar gyfer eu gwerthu neu eu hailgylchu; 
  • Gweithdai a gweithgareddau gwirfoddoli er mwyn creu darnau y gellir eu gwerthu i’r caffi o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu neu eitemau diangen;
  • Arddangos eitemau y gellir eu prynu, sydd wedi eu gwneud o ddeunyddiau ailgylchu.

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Rwy’n croesawu’r newyddion fod cais wedi ei gyflwyno i ddod â menter gyffrous a diddorol i ganol tref Bwcle. Mae cyfleuster fel hwn yn cefnogi nifer o flaenoriaethau’r Cyngor, megis hyrwyddo cydlyniant cymunedol, cefnogi adfywio canol y dref a chynorthwyo i hyrwyddo menter gwastraff ac ailgylchu er mwyn sicrhau fod Cymru yn symud tuag at Economi Gylchol. Rwy’n edrych ymlaen at dderbyn canlyniad cadarnhaol i’r cais hwn.” 

Dywedodd Groundworks/Refurbs:

“Rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint ar y fenter newydd gyffrous hon fydd yn creu swyddi a chyfleoedd gwirfoddoli i bobl leol, a chynorthwyo gydag adfywio canol tref Bwcle drwy fenter atgyweirio ac ailddefnyddio.”

Caiff Cyngor Sir y Fflint wybod canlyniad y cais hwn ddechrau Ionawr 2021.