Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2021/22

Published: 10/12/2020

Money Fotolia_40586732_XS[1].jpgDdydd Mawrth 15 Rhagfyr bydd Aelodau Cabinet Sir y Fflint yn derbyn adroddiad ar ragolwg cyllidebol 2021/22.

Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r rhagolwg cyllidebol diweddaraf ac yn cynghori ynghylch y datrysiadau cyllideb cyfyngedig sydd ar gael, sy’n golygu y bydd cyflawni sefyllfa gytbwys ar gyfer 2021/22 yn dibynnu’n fawr ar dderbyn cyllid digonol gan Lywodraeth Cymru. 

Cyn Adolygiad Gwariant diweddar Canghellor y DU, roedd y rhagolwg cyllidebol isaf ar gyfer 2021/22 yn £16.750 miliwn 

Mae’n bosibl y bydd y rhagolwg yn newid yn dibynnu ar a yw Llywodraeth Cymru yn dilyn yr un patrwm o ran cyhoeddiadau cyflog y sector cyhoeddus - nid oedd yr Adolygiad Gwariant yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cynnydd cyffredinol. 

Fodd bynnag, hyd yn oed ar ôl caniatáu ar gyfer cynnydd blynyddol rhesymol yn Nhreth y Cyngor ac amcangyfrif o £1.750 miliwn mewn arbedion effeithlonrwydd corfforaethol, mae ein gofynion cyllid gan y setliad yn dal yn oddeutu £11.3 miliwn, sy’n cynrychioli cynnydd o oddeutu 5.7% yn y Grant Cymorth Refeniw.

Felly, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu cynnydd o 6% (o leiaf) i roi rhywfaint o hyblygrwydd i fodloni’r gofynion gwario hanfodol presennol.

Rhagwelir y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r setliad dros dro ar 22 Rhagfyr.

Meddai’r Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Sir y Fflint:

“Mae cynnydd o lai na 5.7% yn golygu na fyddwn ni’n gallu bodloni ein gofynion gwario lleiaf na mynd i’r afael â’r diffyg cynyddol yng nghyllidebau ein hysgolion uwchradd. Dim ond drwy gynyddu cyllid sylfaenol y Cyngor y byddwn ni’n gallu cynyddu’r swm rydym ni’n ei fuddsoddi yn ein fformiwla cyllido ysgolion lleol.”

Yn anochel, dan yr amgylchiadau presennol bydd yn rhaid i’r Cyngor gario nifer o risgiau ariannol i 2021/22 felly mae’n bwysig ein bod ni’n ceisio adfer y cronfeydd wrth gefn, sy’n crebachu yn sgil y pandemig, er mwyn lleddfu’r risgiau yma.

Y gobaith ydi y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu parhau â’r gefnogaeth dda a chalonogol sydd wedi’i darparu yn ystod y pandemig a rhoi cyllid digonol i'r Cyngor allu diwallu’r anghenion presennol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Banks:

“Yn y sefyllfa sydd ohoni, a ninnau’n ei chael hi’n anodd cyrraedd ein targedau casglu Treth y Cyngor a llawer o aelwydydd yn bryderus ynghylch swyddi ac incwm, fedrwn ni ddim gofyn i drethdalwyr lleol ysgwyddo’r baich o ran ariannu gwasanaethau lleol yn briodol.”