Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru 

Published: 10/12/2020

Bydd gofyn i aelodau Cabinet Sir y Fflint nodi’r gwaith a’r cynnydd a wnaed gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn ystod 2019/20 yn eu cyfarfod ddydd Mawrth, 15 Rhagfyr. 

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Bwrdd Iechyd, pob un o’r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru, yn ogystal â chynrychiolwyr tai, cynrychiolwyr y trydydd sector, cynrychiolwyr gofalwyr, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru a Heddlu Gogledd Cymru, maent yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol ar draws Gogledd Cymru. 

Yn ystod 2019/20, blaenoriaeth y bwrdd oedd cyflawni’r pedair rhaglen drawsnewid ar gyfer ‘Cymru Iachach’ a luniwyd er mwyn datblygu gwasanaethau integredig yn y gymuned ar draws y rhanbarth yn gyflym. 

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint (ac Aelod o Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru):

“Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o’r rhaglen drawsnewid hon sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol yng Ngogledd Cymru.    Mae’r rhaglenni trawsnewid uchelgeisiol hyn yn gweithio i newid gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc, Pobl ag Anableddau Dysgu, yr unigolion hynny sydd angen cymorth â’u Hiechyd Meddwl a Gwasanaethau Cymunedol sy’n anelu at integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn well ar lefel leol i bobl hyn, gan gynnwys y rheiny sy’n byw â dementia, pobl ag anableddau corfforol a gofalwyr di-dâl.”

“Mae wedi bod yn flwyddyn heriol tu hwnt ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae ein timau ar draws Gogledd Cymru wedi gweithio’n ddiflino drwy gydol y cyfnod hwn i gynnig gwasanaeth i’n trigolion. Hoffwn i a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ddiolch o galon i bawb am eu gofal a’u trugaredd yn ystod y cyfnod hwn.”