Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Plannu coed yn Yr Wyddgrug

Published: 14/12/2020

Yn ddiweddar mae Cyngor Sir y Fflint wedi plannu coed yn Ysgol Alun yr Wyddgrug, gan weithio gyda'r ysgol, Cyngor Tref yr Wyddgrug, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a Capacity Marketing For Charities a fu’n hael iawn wrth dalu am brynu’r coed. 

Plannwyd cyfanswm o 19 coeden, un ar gyfer bob aelod o staff yn Capacity Marketing For Charities. 

Sefydlwyd Capacity, ym Mharc Busnes yr Wyddgrug, yn 2001 gan Stephen Maund, ac ymunodd ei wraig Anne ag o bum mlynedd yn ddiweddarach. Mae’r cwmni wedi tyfu i fod yn ddarparwr sylweddol o wasanaethau codi arian etifeddiaeth i fwy na 150 o elusennau o enwau adnabyddus i sefydliadau bychan.

Mae Stephen ac Anne Maund, a werthodd y busnes i’r Cyfarwyddwr Richard Millar ar ôl ymddeol ym mis Medi, wedi rhoi'r coed yma i ddiolch i’r Wyddgrug am fod yn gartref i swyddfa'r 'teulu dydd' am bedair blynedd ar bymtheg. Mae Capasity yn cyflogi deunaw o bobl a thros y blynyddoedd maen nhw wedi codi dros £67 miliwn i elusen.  

Anne a Stephen Dywedont: 

“Ysgol Alun yw’r lle delfrydol ar gyfer y coed Capacity a byddwn yn mwynhau eu gweld yn tyfu ac yn gwella amgylchedd yr ysgol”.

Mae plannu’r coed yn cyd-fynd â'r plannu parhaus ledled yr Wyddgrug a gychwynnwyd gan Gyngor y Dref sydd wedi cynnal ymgynghoriad cymunedol ac wedi canfod lleoliadau ar draws y gymuned ble roedd preswylwyr eisiau gweld mwy o goed yn cael eu plannu.

Dywedodd Aelod Cabinet Cludiant a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: 

“Mae’r prosiect, a hwylusir gan Gyngor Sir y Fflint yn gweithio gyda Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, yn cefnogi cyflwyno Cynllun Coed a Coetir Trefol Sir y Fflint sy’n anelu i gynyddu brigdwf coed trefol o 13% i 18%.

“Rydym wedi gweld gwir ddyhead gan y gymuned a busnesau lleol i ariannu a chefnogi gwelliannau natur trefol megis plannu coed ac ardaloedd blodau gwyllt ledled yr Wyddgrug ac rydym yn hapus iawn i’w cefnogi. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Capacity Marketing i wneud gwir wahaniaeth i bawb sy’n defnyddio safle’r ysgol yn awr ac yn y dyfodol wrth i’r coed aeddfedu.”

Y mwyafrif o’r coed i’w plannu fydd coed brodorol sy’n darparu'r budd mwyaf i fioamrywiaeth. Bydd y coed hefyd yn darparu nifer o fanteision ychwanegol gan gynnwys cefnogi gwell ansawdd aer, gwella edrychiad yr ardaloedd, helpu i leihau dwr wyneb yn gorlifo a darparu cysgod.

Dywedodd y cynghorydd lleol Haydn Bateman:

“Fel Cynghorydd Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Broncoed croesawaf y plannu coed ac edrychaf ymlaen i'r prosiect barhau ar draws yr ardal.” 

Dywedodd y Cynghorydd Tref Teresa Carberry: 

“Fel Maer ac aelod o staff addysgu Ysgol Alun, rwyf wrth fy modd ac yn ddiolchgar i Capacity Marketing am eu rhodd hael ac i'r myfyrwyr a staff yr ysgol am eu hymgysylltiad gweithredol a chadarnhaol gyda’r prosiect hwn. Mae’n chwarae rhan sylweddol yn ymdrechion Cyngor y Dref i gynyddu’r ganran o frigdwf coed ac yn anelu i wella ein hamgylchedd lleol. “

Students and Capacity with Mayor IMG_8081small.jpg