Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau

Published: 14/12/2020

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio’r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau yr wythnos hon i gefnogi busnesau sydd wedi’u heffeithio’n uniongyrchol gan y cyfyngiadau ychwanegol a roddwyd ar waith ar 4 Rhagfyr.

Y cam cyntaf fydd gwneud taliadau awtomatig i fusnesau lletygarwch sydd wedi cyflwyno cais llwyddiannus ar gyfer grant y cyfnod atal byr ym mis Hydref/Tachwedd, heb fod angen cyflwyno cais arall am grant.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio trwy ganllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru i sicrhau bod taliadau grant awtomatig yn cael eu gwneud i’r grwpiau blaenoriaeth hyn cyn gwyliau’r Nadolig.

Yr wythnos hon, bydd busnesau lletygarwch sy’n defnyddio eiddo â gwerth ardrethol o hyd at £51,000, ac sydd wedi cael grant diweddar y cyfnod atal byr, yn cael taliad awtomatig o £3,000 neu £5,000. 

Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts: 

“Rydym yn deall yr effaith ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd hwn, yn enwedig y rhai sy’n gweithredu yn y sector lletygarwch. Mae’r Cyngor yn chwarae ei ran wrth helpu i weinyddu’r pecyn cymorth ariannol.

“Mae wedi bod yn dasg sylweddol, ond rwy’n falch iawn o gyhoeddi bod 154 o fusnesau lletygarwch wedi cael eu taliadau grant yn awtomatig erbyn 11 Rhagfyr, gyda chyfanswm grantiau o £550,000. Mae’r taliadau yn debygol o gyrraedd cyfrifon banc erbyn dydd Iau, 17 Rhagfyr fan bellaf.”

Bydd cynllun grant sy’n seiliedig ar geisiadau yn agor cyn hir ar gyfer busnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden eraill a’u cadwyni cyflenwi, a busnesau manwerthu sy’n gallu dangos gostyngiad o fwy na 40% o ran trosiant o ganlyniad uniongyrchol i gyfyngiadau newydd. 

Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn www.siryfflint.gov.uk/ardrethibusnes wrth i gamau eraill o’r cynllun fynd yn fyw. Dylai busnesau wirio’r wefan ar gyfer cyhoeddiadau pellach.