Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llofnodi trawst yn Ysgol Uwchradd Castell Alun

Published: 14/12/2020

Mae rhaglen foderneiddio ysgolion Sir y Fflint yn magu momentwm gyda seremoni lofnodi trawst yn ddiweddar yn Ysgol Uwchradd Castell Alun yn yr Hôb.  

 

Mae’r Cyngor yn buddsoddi bron i £5 miliwn o’i rhaglen gyfalaf yn Ysgol Uwchradd Castell Alun, ar gyfer bloc Celf a Dylunio a Thechnoleg tri llawr, newydd a fydd yn cynnwys ystafelloedd dosbarth arbenigol gyda mannau addysgu cyffredinol, swyddfeydd a thoiledau. Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys dymchwel y bloc technoleg presennol i greu mannau parcio ychwanegol a gosod to newydd ar yr adran gerdd bresennol.

Bydd y gwaith hwn yn creu gofod addysgu newydd sy'n ysbrydoli myfyrwyr ac athrawon yn ogystal â darparu cyfleoedd cyflogaeth a dysgu i'r gymuned.  Cyfanswm y buddsoddiad yw ychydig mwy na £7.6 miliwn.

Dechreuodd y contractwyr, Willmott Dixon, weithio ym mis Hydref 2020 ac mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn dechrau 2022. Hyd yma, mae’r gwaith wedi cynnwys gosod y sylfaeni ar gyfer yr adeilad newydd, gwaith draenio, tarmacio a gosod llinellau ar y maes parcio bysiau.

Mae'r trawst dur wedi cyrraedd bellach ac mae ei osod yn garreg filltir sylweddol i’r prosiect.

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:

“Mae’r Cyngor yn dal i weithio i ddarparu addysg gynaliadwy o safon uchel i bob un o’n dysgwyr. Roedd yn ddymunol i ymweld ag Ysgol Uwchradd Castell Alun i weld y gwaith adeiladu ar yr adeilad newydd yn dechrau siapio. Bydd y datblygiadau yn yr Ysgol yn trawsnewid y cyfleusterau dysgu sydd ar gael ac rwy'n edrych ymlaen at weld y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn dechrau 2022.”

Dywedodd y Pennaeth yn yr ysgol, Paul Edwards:

“Mae'r bloc addysgu newydd cyffrous hwn wedi cael ei adeiladu i safon uchel, i ddarparu cyfleusterau modern o'r radd flaenaf a'r cyfleoedd dysgu gorau i'n dysgwyr a’r gymuned ehangach. Edrychaf ymlaen at weld yr adeilad hwn yn datblygu dros y misoedd i ddod.”

Dywedodd Anthony Dillon, rheolwr gyfarwyddwr yn y Gogledd ar gyfer Willmott Dixon:

“Rydym yn falch iawn ein bod yn chwarae rhan wrth greu’r cyfleusterau newydd cyffrous hwn a fydd yn cynnig yr amgylchedd gorau un i ddisgyblion ddysgu a datblygu.

“Rydym yn credu mewn datblygu adeiladau ardderchog, trawsnewid bywydau, cryfhau cymunedau a gwella'r amgylchedd fel bod ein byd yn addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, mae Ysgol Uwchradd Castell Alun yn brosiect sy’n cefnogi pob un o’r amcanion hynny ac rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi gyda phartneriaid yn y gadwyn gyflenwi leol lle bo modd, yn ogystal â chreu cyfleoedd newydd am gyflogaeth leol.”

Castell Alun (1 of 2).jpg Castell Alun (2 of 2).jpg