Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Trawsnewidiad Willmott Dixon o Marleyfield House

Published: 15/12/2020

Er mwyn cynnwys ffyrdd newydd ac arloesol o gadw pobl yn saff, mae cwmni adeiladu Willmott Dixon a Chyngor Sir y Fflint ar amser i gwblhau ehangiad sylweddol i gartref gofal Marleyfield House ym Mwcle.  

Bydd y prosiect ailddatblygu gwerth £8.4 yn dyblu’r nifer o wlâu ym Marleyfield House o 32 i 64 ac yn ychwanegu at y gofod awyr agored cymunedol a hygyrchedd i gefnogi lles preswylwyr. 

Bydd gan bob ystafell ofod awyr agored personol un ai trwy falconi ar y llawr cyntaf neu batio ar y llawr gwaelod, tra mae’r estyniad hefyd yn golygu creu ardaloedd cymunedol newydd, cyfleusterau meddygol, swyddfeydd ac ystafelloedd storio, cyfleusterau parcio ceir estynedig a thirlunio sensitif ar raddfa eang.  

Mae’n enghraifft o ddull rhagweithiol yr awdurdod lleol i fynd i’r afael â’r pwysau sylweddol a’r breuder presennol yn y sector gofal ar draws y wlad, gyda’r nod o gwblhau’r prosiect yn haf 2021 gyda gwaith wedi parhau yng nghanol heriau’r pandemig byd-eang.  

Yn ystod Covid-19 mae’r cartref wedi mynd i mewn i gyfnod clo a Willmott Dixon wedi addasu ei arferion adeiladu i wneud yn siwr bod y safle wedi’i wahanu oddi wrth y cartref bob amser. Mae hynny wedi cynnwys mynediad safle penodedig, adeiladu llefydd parcio ychwanegol ar gyfer y cartref a chyflenwadau wedi’u cydlynu. 

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

“Mae hi’n wych gweld yr estyniad modern rhagorol hwn yn cael ei adeiladu ar Marleyfield.  Mae ganddo olygfeydd ysblennydd ac mi fydd yn cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf. Dyma ailddatgan ymrwymiad y Cyngor i wasanaethau o safon, gan fuddsoddi arian mewn gwasanaethau critigol.  Dwi’n falch bod Cyngor Sir y Fflint yn parhau i gefnogi ein preswylwyr mwyaf diamddiffyn.”

Meddai Anthony Dillon, rheolwr gyfarwyddwr Willmott Dixon i Ogledd Cymru a Gogledd Lloegr:

“Rydym yn falch iawn o’r rhan yr ydym yn wedi’i chwarae mewn darparu prosiect mor bwysig a’i fod yn mynd i wneud y gymuned leol yn falch a chreu cartref modern, croesawgar ac o safon uchel i breswylwyr. 

“Diolch i gryfder y perthnasau a’r cydweithio rhwng ein tîm, Cyngor Sir y Fflint a’n holl bartneriaid dylunio a chadwyn cyflenwi leol rydym wedi goresgyn yr heriau heb eu tebyg o’r blaen eleni ac wedi parhau i symud ymlaen efo’r prosiect ac yn bwysicach na dim wedi gallu cadw pawb yn ddiogel ar y safle.” 

Marleyfield (7 of 7)small.jpgMarleyfield (2 of 7)small.jpg