Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Seremoni Torri Tywarchen Ar-Lein Campws Queensferry

Published: 21/12/2020

Mae gwaith yn mynd rhagddo i godi Plas Derwen (Uned Cyfeirio Disgyblion), Ty Calon (Canolbwynt Cymunedol) ac i ailwampio Ysgol Gynradd Queensferry.

Bydd y gwaith yn adfywio’r safle, rhywbeth sydd wir ei angen.

Perfformiwyd y seremoni swyddogol i dorri’r dywarchen gan Dan Hampson, cynrychiolydd Grwp Kier, ddydd Llun 21 Rhagfyr 2020. Cafodd y seremoni ei gwylio ar-lein gan gynghorwyr, swyddogion a chynrychiolwyr y cwmni adeiladu, Grwp Kier.

Ar gyfer Plas Derwen bydd ysgol ddeulawr newydd sbon, ar gyfer 111 disgybl, yn cael ei chodi ar safle'r cyrtiau tennis.

Mi fydd yna 9 ystafell ddosbarth, 3 ystafell arbenigol, gofodau therapiwtig, cyfleusterau gweinyddol, neuadd, cegin a chownter arlwyo ac ardaloedd chwarae caled a meddal. 

Ar gyfer Ty Calon bydd cyfleuster cymunedol unllawr yn cael ei godi ar y tiroedd sydd ar gael a bydd yno amrywiaeth o gyfleusterau cymunedol, gan gynnwys caffi, stiwdio, cegin fasnachol a bar, cyfleusterau newid ar gyfer chwaraeon cymunedol, gofodau addysgu cymunedol ar gyfer oedolion a phobl ifanc, a maes parcio. 

Ar gyfer Ysgol Gynradd Queensferry bydd mynediad newydd yn cael ei godi a gwaith yn cael ei wneud ar y tiroedd cysylltiedig, gan gynnwys codi bloc gweinyddol, neuadd a chegin newydd. 

Y tu allan mi fydd yna waith tirlunio sylweddol yn cael ei wneud i ddarparu gofodau agored a gwyrdd, bydd y llwybr troed cyhoeddus yn cael ei symud a bydd ffin newydd yn cael ei chreu ar gyfer yr ysgol. 

Meddai’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

“Dw i’n falch iawn bod Sir y Fflint yn cefnogi ein hymrwymiad i gyflwyno mwy o ofodau dysgu cymunedol hollgynhwysol drwy ymgymryd â’r datblygiad cymunedol arloesol hwn a fydd hefyd yn adfywio’r safle presennol. 

“Bydd Campws Dysgu Queensferry yn chwarae rhan bwysig i ddarparu ysgol gynradd wedi’i hailwampio, cyfleuster addysg arbenigol canolog ar gyfer y sir a chanolbwynt a fydd yn darparu cefnogaeth i’r gymuned gyfan. 

“Dw i’n falch iawn ein bod ni, drwy ein rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif, yn gweithio mewn partneriaeth gyda’n hawdurdodau lleol, colegau, awdurdodau esgobaethol a budd-ddeiliaid eraill i wneud ein stadau addysgol yn addas i genedlaethau’r dyfodol.” 

Meddai'r Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

“Bydd gwaith moderneiddio’r ysgol a chodi’r adeilad newydd ar gyfer Plas Derwen yn cael ei wneud i’r safon uchaf, a bydd yn darparu cyfleusterau modern heb eu hail a’r cyfleoedd dysgu gorau ar gyfer ein plant. Mae’r Cyngor yn parhau i ymrwymo i fuddsoddi yn nyfodol ein plant a’n pobl ifanc. Rydym ni’n parhau i weithio i ddarparu addysg gynaliadwy o safon uchel i’n holl ddysgwyr. Mae’n braf gweld gwaith y prosiect cyffrous yma yn mynd rhagddo ar y safle.”

Meddai Peter Commins, Rheolwr Gyfarwyddwr Kier Construction Gogledd-Orllewin Lloegr: 

“Rydym ni’n falch iawn ein bod ni wedi ein penodi i ddarparu’r prosiect yma a pharhau i weithio gyda Chyngor Sir y Fflint. Bydd yr amgylcheddau dysgu newydd a gwell yn helpu i ysbrydoli disgyblion a bydd y prosiect yn darparu cyfleusterau modern a fydd yn dymchwel y rhwystrau sy’n atal dysgu ac yn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd plant a phobl ifanc yn cyflawni eu llawn botensial. Mae Kier yn falch iawn o gefnogi’r Cyngor i ddarparu'r cyfleuster dysgu rhagorol hwn.”

 Turf Cutting at Deeside small.jpg

Rhagfyr 2020

 QFerry_futuresmall.jpg

 pan fydd wedi'i gwblhau