Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Trefniadau Ysgolion ar gyfer mis Ionawr 2021

Published: 18/12/2020

Yn sgil cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am gyfyngiadau newydd i Gymru ar ôl y Nadolig, mae penderfyniadau cenedlaethol wedi’u gwneud hefyd am ddarparu addysg pan fydd ysgolion yn ailagor ym mis Ionawr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod i awdurdodau lleol y bydd angen dull mwy hyblyg er mwyn darparu ar gyfer cynnydd posibl o ran cyfraddau trosglwyddo’r feirws, yn enwedig ar ôl gwyliau’r Nadolig lle bydd mwy o deuluoedd wedi cymysgu â’i gilydd. Maen nhw wedi cynghori ysgolion i wneud fwy o ddefnydd o ddulliau dysgu o bell yn ystod wythnosau cyntaf y flwyddyn newydd, gyda’r disgwyliad y bydd ysgolion yn dychwelyd i ddarparu dysgu wyneb i wyneb erbyn 18 Ionawr, oni bai bod amgylchiadau eithriadol.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi penderfynu, trwy ymgynghori â’i Benaethiaid ac yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru, na fydd ysgolion Sir y Fflint yn ailagor ar gyfer dysgu wyneb i wyneb ar gyfer yr wythnos sy’n dechrau 4 Ionawr 2021 a bydd yn darparu dysgu ar-lein i’r disgyblion i gyd. 

Bydd pob ysgol yn cysylltu â rhieni i nodi pa blant allai fod angen parhau i fynychu’r ysgol yn ystod y cyfnod hwn, er enghraifft plant gweithwyr allweddol.

Ni chaiff penderfyniad ei wneud am pa bryd i symud ysgolion yn ôl i ddarparu dysgu wyneb i wyneb tan 6 Ionawr. Nod y Cyngor yw dychwelyd i ddysgu wyneb i wyneb cyn gynted ag sy’n bosibl, ond dim ond pan fydd hi’n ddiogel i wneud hynny.

Bydd plant sydd â hawl i Brydau Ysgol am Ddim yn parhau i gael taliadau uniongyrchol ar gyfer y cyfnod dysgu o bell. Caiff rhagor o fanylion eu rhannu cyn gynted ag sy’n bosibl am drefniadau arlwyo ar gyfer plant sydd angen mynd i’r ysgol naill ai fel dysgwr diamddiffyn neu ar gyfer trefniadau gofal plant. 

Disgwylir i bob dysgwr gael yr un ddarpariaeth ddysgu gan eu hysgol, p’un a fyddant adref ac yn dysgu o bell, neu os oes angen iddynt fod yn yr adeilad.

Byddwn yn parhau i ddarparu gwybodaeth i rieni a gofalwyr trwy lythyrau gan ysgolion ac ar ein gwefan siryfflint.gov.uk.