Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lledaenu ysbryd y Nadolig mewn cyfnod anodd 

Published: 21/12/2020

Xmas concert.jpgDaeth disgyblion o ysgol gynradd Drury ag ychydig o ysbryd y Nadolig i drigolion cartref gofal Marleyfield House yn ddiweddar. 

Trefnwyd y digwyddiad ar-lein gan Willmott Dixon fel rhan o’u hymrwymiad i ddarparu gwerth cymdeithasol wrth gyflawni estyniad £8.4miliwn i gartref gofal Marleyfield House. 

Perfformiodd y disgyblion gyngerdd Nadolig arbennig ar-lein i’r trigolion, a ddangoswyd ar sgrin i’r holl drigolion ei weld.  Gellir ei weld yma.

Dywedodd un o’r trigolion: 

“Diolch yn fawr iawn am ddoe, roedd y trigolion wrth eu boddau – emosiynol iawn.” 

Anfonodd Maxine, athrawes yn yr ysgol, neges at Willmott Dixon yn dweud: 

“Meddwl y byddwn yn anfon negese e-bost sydyn i ddiolch i chi am heddiw ac i ddymuno Nadolig Llawen... roedd y plant wrth ei boddau gyda’r cyngerdd! Roedd yn hyfryd gweld y trigolion yn cyfarfod y ffrindiau sydd wedi bod yn ysgrifennu atynt!  Gobeithio eu bod wedi mwynhau’r canu hefyd!” 

reindeer1.jpgMewn digwyddiad arall a gynhaliwyd yn gynt yn y mis, cyflwynodd Willmott Dixon goeden Nadolig i’r cartref gan gynnal rhost mochyn i’r trigolion ei fwynhau.  Yn goron ar y digwyddiad, cyrhaeddodd ceirw Siôn Corn, cafwyd cerddoriaeth arbennig gan ddiddanwr lleol a cyflwynwyd cardiau ac anrhegion Nadolig a wnaed gan ddisgyblion ysgol gynradd Drury i’r trigolion – y mae rhai ohonynt heb weld eu teuluoedd ers mis Mawrth. 

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

“Roeddwn yn siomedig nad oedd modd i fi fynychu’r rhost mochyn yn gynharach y mis hwn, ond yn falch iawn o glywed fod y digwyddiad wedi bod mor llwyddiannus.  Canodd y plant yn hyfryd – rwy’n siwr fod y trigolion i gyd wrth eu boddau. Wedi gweld y gwaith mae Willmott Dixon yn ei wneud, gallaf ddweud eu bod yn gwneud gwaith anhygoel ac yn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau’r trigolion mewn cymaint o ffyrdd.” 

Meddau Anthony Dillon, rheolwr gyfarwyddwr i Willmott Dixon yn y Gogledd: 

“Ochr yn ochr â Chyngor Sir y Fflint, rydym yn rhannu ymrwymiad i adael etifeddiaeth bositif yn ein cymunedau, felly rydym yn falch iawn o allu gwneud gwahaniaeth bach i drigolion y Nadolig hwn. Diolch i’r holl dîm, y staff yn Marleyfield House a’n partneriaid yn y gadwyn gyflenwi am sicrhau fod y digwydd mor llwyddiannus.” 

Xmas tree.jpg