Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ateb yr alwad gan y Gwasanaeth Profi,  Olrhain a Diogelu fydd yr anrheg orau rowch chi i eraill y Nadolig hwn

Published: 18/12/2020

North Wales Tracing Service (TTP) logo.jpg

Bydd y timau Profi, Olrhain a Diogelu yn dal ar waith dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Os ydych yn byw yn Sir y Fflint mae oriau'r tîm i’w gweld isod:

Noswyl Nadolig - 8am - 5pm

Dydd Nadolig a Dydd San Steffan - 10am - 3pm

Dydd Sul 27 Rhagfyr - 10am - 6pm 

28 Rhagfyr i 30 Rhagfyr - 8am - 8pm

Nos Galan - 8am - 5pm

Dydd Calan - 10am - 5pm

Bydd yr oriau gweithredu arferol, sef  8am tan 8pm – yn ail-ddechrau ddydd Sadwrn 2 Ionawr 2021.

Er ein bod ni i gyd yn gobeithio cael ychydig o seibiant dros y Nadolig mae'n bwysig cofio y bydd COVID-19 efo ni o hyd. 

Wrth gwrs rydym yn deall nad ateb galwad gan y gwasanaeth Profi ac Olrhain fyddai’r anrheg Nadolig orau erioed, ond efallai mai dyna’r anrheg orau rowch i i rywun arall byth.  Gallech yn llythrennol fod yn achub bywyd rhywun. 

Dilynwch yr arweiniad ar ein gwefan Nadolig2020 ac arhoswch yn ddiogel y Nadolig hwn.