Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Annog y cyhoedd i fod yn wyliadwrus dros gyfnod y Nadolig

Published: 22/12/2020

Safeguardingsmall.jpg

Mae Cyngor Sir y Fflint yn annog pawb i fod yn wyliadwrus ar ran plant ac oedolion diamddiffyn a all fod mewn perygl dros dymor y Nadolig. 

Mae’r Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint, wedi galw ar y cyhoedd i ymuno ag ymdrechion y cyngor:

“Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn cefnogi ac yn gofalu am ein gilydd. Os ydych yn poeni o gwbl am les plentyn neu oedolyn diamddiffyn, mae’n llawer gwell dweud rhywbeth yn lle gwneud dim.  Byddwn yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw bryderon am blentyn neu oedolyn diamddiffyn i gysylltu â’r Cyngor Sir ar unwaith, fel y gallwn gymryd camau priodol i helpu a chefnogi’r rhai hynny dan sylw.”

Eglurodd Neil Ayling, Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Dros y gwyliau, byddwn yn parhau i ddiogelu a chefnogi plant ac oedolion diamddiffyn, ond wrth i ni fynd i gyfyngiadau Lefel Rhybudd 4, rydym hefyd yn gofyn i bawb yn Sir y Fflint i’n helpu.  Rydym yn gofyn i’r cyhoedd fod yn wyliadwrus i gadw pobl yn ddiogel.”

Mae Cyngor Sir y Fflint yn annog pawb i weithredu os ydynt yn pryderu am blentyn neu oedolyn diamddiffyn. Os ydych yn poeni, cysylltwch â:

Yn poeni am oedolyn? 03000 858858

Yn poeni am blentyn? 01352 701000

Cyswllt y tu allan i oriau mewn argyfwng i blant ac oedolion: 0845 053 3116

Gallwch hefyd ffonio’r heddlu ar 101.