Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ail-wynebu Ffordd Gerbydau'r A549 Brunswick Road a Chester Road, Bwcle (rhwng y Tivoli a Brook Street)

Published: 24/12/2020

roadworks_SMALL.jpg

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi fod arian wedi’i ddiogelu i gynnal gwaith ail-wynebu ffordd gerbydau'r A549 Brunswick Road a Chester Road, Bwcle (rhwng y Tivoli a Brook Street), gan ddechrau ddydd Mawrth, 5 Ionawr am oddeutu 3 wythnos  (yn ddibynnol ar y tywydd). 

Er mwyn hwyluso’r gwaith, bydd system un ffordd ar waith, yn gwahardd cerbydau rhag teithio i gyfeiriad y dwyrain (o Mill Lane tuag at Brook Street). 

Bydd angen cau’r ffordd yn llwyr yn ystod camau amrywiol o’r cynllun, cyfyngir hyn i oriau llai prysur (09:00 i 14:45), gyda’r system un ffordd ar waith pan nad yw’r ffordd ar gau. 

Bydd modd cael mynediad at eiddo a busnesau unigol o hyd, er y gallai fod peth oedi.

Hoffai Cyngor Sir y Fflint a’n contractwr Breedon Southern Limited ymddiheuro am unrhyw oedi neu amhariad a allai gael ei achosi yn sgil y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn.