Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y wybodaeth ddiweddaraf gan Weithgor Canol Tref Bwcle

Published: 22/12/2020

cycle image.jpg

Sefydlwyd Gweithgor Canol Tref Bwcle yn 2019 i adolygu cyfleoedd i wella nifer yr ymwelwyr a bywiogrwydd cyffredinol yng Nghanol Tref Bwcle a’r ardal gyfagos.

Mae’r grwp yn cynnwys masnachwyr lleol, Cynghorwyr Sir a chynrychiolwyr o’r Cyngor Tref, gyda chefnogaeth swyddogion o’r Cyngor Sir a Dirprwy Arweinydd y Cyngor, yn ei rôl fel deilydd portffolio Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad. Mae’r grwp wedi cyfarfod yn rheolaidd trwy gydol 2020 ac wedi gwneud cynnydd rhagorol o ran cyflwyno cyfleoedd newydd i ardal Bwcle.

Mae’r gwaith a wnaed gan y grwp hyd yma yn cynnwys:

  • Cynhyrchu cynllun peilot i ailagor Brunswick Road i draffig yn ystod y dydd. Mae’r gwaith hwn a’r ymarfer ymgynghori cyhoeddus a gynlluniwyd ar gyfer y cynigion wedi’u gohirio nes gellir cynnal cyfarfodydd cyhoeddus yn ddiogel yn y Flwyddyn Newydd.
  • Mae cynlluniau i annog beicio a cherdded i ganol y dref, trwy ddarparu lonydd beicio pwrpasol, wedi bod trwy ymarfer ymgynghori cyhoeddus lleol dros y we, a chawsant gyllid Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd. Bydd hyn hefyd yn lleddfu’r materion o ran tagfeydd ar Lôn y Felin trwy aildrefnu a lledu’r ffordd i ddarparu ar gyfer y llwybr beicio newydd.
  • Mae cynlluniau ar gyfer rhwydwaith llwybr beiciau gwell, sy’n cwmpasu pob ardal o Fwcle, wedi’u llunio a byddant yn destun digwyddiad ymgynghori pellach dros y we ar ddechrau’r Flwyddyn Newydd.
  • Mae cais cyffrous i Gronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru wedi’i gyflwyno i ddarparu caffi cymunedol a siop atgyweirio yng nghanol Bwcle. Bydd y cyfleuster cymunedol hwn yn darparu canolbwynt i’w groesawu i bobl leol yn y dref a bydd yn adfywio un o’r adeiladau yng nghanol y dref sy’n wag ar hyn o bryd. Bydd canlyniad y cais yn hysbys ar ddechrau’r Flwyddyn Newydd.
  • Mae’r grwp yn adolygu opsiynau i gyflwyno’r dref fel ardal beilot ar gyfer ardaloedd 20mya Llywodraeth Cymru ar ffyrdd ystâd lleol. Bydd hyn yn golygu bod y ffyrdd yn fwy deniadol i feicwyr hefyd ac annog rhagor o bobl i adael eu ceir a dewis opsiynau teithio mwy ecogyfeillgar ac iach.

Dywedodd llefarydd ar ran y grwp:

“Mae Cynghorwyr Tref Bwcle, cynrychiolwyr busnes lleol a Swyddogion Gwasanaethau Stryd wedi bod yn cydweithio i ddatblygu prosiectau diddorol a heriol a fydd yn hyrwyddo iechyd, lles a diogelwch, yn ogystal â gwella’r amgylchedd yn y dref.

“Mae’r grwp eisoes wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau cyllid a fydd yn gweld gwelliannau mawr i’n hisadeiledd ffyrdd a beicio, a dros y misoedd nesaf byddwn yn gweithio’n galed i wireddu’r prosiectau hyn.

“Bydd ceisiadau a gyflwynir ar gyfer mentrau cyffrous fel yr ardaloedd 20mya yn rhoi Bwcle ar flaen y gad o ran diogelwch ffyrdd a theithio llesol, a bydd datblygu canolbwynt cymunedol yn hyrwyddo adfywiad y dref.”

Bydd y grwp yn parhau â’u gwaith yn 2021 a byddant yn darparu rhagor o wybodaeth wrth i’r cynlluniau ddatblygu.