Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cofrestrwch i bleidleisio
  		Published: 21/09/2015
Mae pobl sydd heb ymateb i ffurflen yn gofyn iddynt wirio a yw’r wybodaeth sy’n 
ymddangos ar y gofrestr etholiadol gyferbyn â’u cyfeiriad yn gywir yn cael eu 
hannog i wneud hynny nawr.
Bydd etholiadau pwysig Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r Comisiynydd Heddlu a 
Throseddu yn cael eu cynnal ym mis Mai 2016 ac mae hwn yn gyfle cynnar i 
breswylwyr sicrhau y byddant yn gallu cymryd rhan a defnyddio’u pleidlais.
Meddai Colin Everett, Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Sir y Fflint:
“Rhaid i unrhyw un sydd am bleidleisio gofrestru.  I ofalu’ch bod yn cael dweud 
eich dweud yn yr etholiadau’r flwyddyn nesaf, gwiriwch y ffurflen, os nad yw’ch 
manylion wedi newid gallwch ymateb drwy radffôn, rhyngrwyd neu neges destun.  
Os yw’ch manylion wedi newid gallwch ddiweddaru’r wybodaeth hon drwy wefan 
www.registerbyinternet.com/flintshire.  Fel arall gallwch bostio’r ffurflen yn 
ôl atom.  Os na fyddwch wedi ymateb yn ystod y pythefnos nesaf mae’n bosibl y 
bydd canfasiwr o’r Cyngor yn ymweld â chi i gasglu’r wybodaeth hon.”
Dylai unrhyw un sydd â chwestiynau gysylltu â’r tîm etholiadau ar 01352 702412 
neu trwy e-bost register@flintshire.gov.uk